Llywodraeth y DU ‘yn edrych ar’ ffyrdd gwahanol o ariannu'r BBC

Mae Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud eu bod nhw’n edrych ar ffyrdd gwahanol o ariannu'r BBC.
Mae ffi drwydded y BBC yn cael ei defnyddio er mwyn ariannu BBC Cymru ac mae S4C yn cael £89m ohoni hefyd.
Ond dywedodd Lucy Frazer ei bod hi’n ailedrych ar y ffi drwydded ac os dylai’r BBC gael ei hariannu gan “amrywiaeth o ffynonellau”.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi datgan yn y gorffennol fod y ffi drwydded wedi colli cefnogaeth y cyhoedd.
“R’yn ni’n adolygu ffi’r drwydded,” meddai Lucy Frazer wrth raglen Laura Kuenssberg On Sunday. “Rydw i wedi dechrau'r adolygiad hwnnw.
“Byddwn yn edrych yn fanwl iawn ar y trefniant ariannu.
“Rwy’n meddwl y gallai fod angen [i’r BBC] edrych ar amrywiaeth o ffynonellau ar gyfer ei chyllido.
“Hoffwn sicrhau bod y BBC yn cael ei hariannu’n briodol. Nid ffi’r drwydded yw’r unig ffordd.”
Cyhoeddodd cyn-ysgrifennydd diwylliant y Ceidwadwyr, Nadine Dorries y llynedd y byddai ffi’r drwydded yn cael ei rhewi ar £159 am y ddwy flynedd nesaf.
Ychwanegodd ei bod am ddod i hyd i fodel ariannu newydd erbyn 2027 gan ei bod yn “hollol hen ffasiwn”.
Llun: Lucy Frazer gan PA / James Manning.