Gorchuddio blwch post i ddathlu coroni Charles â sticeri unwaith eto

Roedd blwch post yng Nghaerdydd er mwyn dathlu coroni Charles III wedi ei orchuddio mewn sticeri unwaith eto ddydd Sadwrn.
Roedd y sticeri yn cynnwys rhai YesCymru a rhai Cymdeithas yr Iaith yn holi 'Ble mae'r Gymraeg?'
Roedd y blwch post gyferbyn â thafarndy'r Owain Glyndŵr yn un o bedwar yn y Deyrnas Unedig oedd wedi eu paentio er mwyn nodi’r achlysur.
Roedd wyau wedi eu taflu at y blwch post a graffiti wedi ei ychwanegu yn ogystal, meddai PA.
Cafodd y blwch post ei orchuddio â sticeri o fewn oriau i’w ddadorchuddio ddydd Mercher ond ddydd Iau fe gafodd y sticeri eu tynnu oddi arno.
Roedd cwynion ar y cyfryngau cymdeithasol fod y bocs wedi ei leoli y tu allan i dafarn Owain Glyndŵr, tywysog brodorol olaf Cymru.
'Llongyfarchiadau'
Mae'r blychau eraill wedi eu lleoli yn Llundain, Caeredin a Hillsborough (Gogledd Iwerddon) ac yn arddangos arwyddlun swyddogol y digwyddiad.
Wrth ddadorchuddio'r blychau post dywedodd cyfarwyddwr materion allanol a pholisi'r Post Brenhinol, David Gold, fod "coroni Brenin Charles III a'r Frenhines Camilla yn achlysur pwysig ac yn un a fydd yn cael ei ddathlu ar draws y DU.
"Rydym yn falch i nodi digwyddiad mor hanesyddol ac i gynnig ein llongyfarchiadau dwysaf i'r Brenin a'r Frenhines."
Daw wrth i sgrin fawr yn dangos y Coroni gael ei gosod yng Nghastell Caerdydd fel bod torfeydd yn cael gwylio’r seremoni.