Newyddion S4C

Cipolwg ar rownd gynderfynol y gemau ail gyfle

Sgorio 06/05/2023
jd cymru premier / CBD Cymru

Mae’r tymor cyffredin wedi dod i ben ac mae’r tri uchaf, Y Seintiau Newydd, Cei Connah a Phen-y-bont wedi sicrhau eu lle’n Ewrop ar gyfer yr haf.

Bydd y tocyn olaf i Ewrop yn mynd i enillwyr y gemau ail gyfle, a bydd y pedwar clwb orffennodd rhwng y 4ydd a’r 7fed safle yn cystadlu yn y rownd gynderfynol y penwythnos yma.

Met Caerdydd (4ydd) v Hwlffordd (7fed) | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C)

Tra bod clybiau profiadol Y Bala a’r Drenewydd wedi dechrau’r tymor gyda disgwyliadau uchel o hawlio lle’n Ewrop, nid llawer fyddai wedi darogan y byddai Met Caerdydd a Hwlffordd yn cael eu henw yn yr het yn Geneva.

Gorffennodd Met Caerdydd yn 7fed y llynedd, ac wedi i’r Dr Christian Edwards gamu i lawr o’i swydd fel rheolwr y clwb roedd yna amheuaeth a fyddai’r myfyrwyr yn gallu parhau i berfformio ymysg goreuon Cymru.

Ond o dan arweiniad Ryan Jenkins, a gyda Dr Edwards yn dychwelyd i’w rôl flaenorol wedi’r hollt, mae Met Caerdydd wedi gorffen yn eu safle uchaf erioed (4ydd), ac ar bapur nhw yw’r ffefrynnau i ennill y gemau ail gyfle a chyrraedd Ewrop am y tro cyntaf ers tair blynedd.

Roedd Hwlffordd wedi gorffen yn 10fed y tymor diwethaf, ond mae’r clwb wedi bod yn brysur yn codi’r safonau ar y cae a thu ôl i’r llen ac mae’r canlyniadau i’w gweld gyda’r Adar Gleision yn gorffen yn 7fed eleni, sef eu safle uchaf ers 2008/09 gan selio lle’n y gemau ail gyfle am y tro cyntaf erioed.

Bydd y clwb o Sir Benfro yn anelu i gyrraedd Ewrop am ond yr eildro yn eu hanes, ac hynny ar ôl colli 4-1 dros ddau gymal yn erbyn Fimleikafélag Hafnarfjarðar o Wlad yr Iâ yn 2003/04.

Bydd Hwlffordd yn cymryd hyder o’r ffaith bod y tîm orffennodd yn 7fed wedi ennill y gemau ail gyfle deirgwaith yn yr 11 tymor ers ffurfio’r gystadleuaeth – a’r tri clwb sydd yn eu herbyn eleni oedd yr enillwyr rheiny (Y Bala 12/13, Met Caerdydd 18/19, Y Drenewydd 20/21).

Os mae ‘momentwm’ ydi’r allwedd, yna mae hwnnw’n sicr gan Hwlffordd am eu bod ar rediad o saith gêm heb golli (ennill 5, cyfartal 2).

Ond mae hanes ar ochr y myfyrwyr, gyda Met Caerdydd wedi ennill pedair o’u pum gêm ddiwethaf yn erbyn yr Adar Gleision.

Record cynghrair diweddar:

Met Caerdydd: ✅✅❌❌❌
Hwlffordd: ✅➖✅✅➖

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:15.

Bydd enillwyr y ddwy gêm yn cyfarfod ddydd Sadwrn nesaf yn y rownd derfynol i benderfynu pwy fydd y pedwerydd clwb fydd yn cynrychioli Cymru yn Ewrop eleni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.