![Jessica Tasker](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2023-05/Jessica%20Tasker%202.jpg?itok=z2ATs8Xu)
Mam wedi ysgrifennu llythyr ffarwel at ei phlentyn yn sgil cam-drin domestig
![ITV Cymru](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/2021-03/ITV_Cyrmu-Wales.png)
Rhybudd: Fe all y lluniau yn yr erthygl beri gofid i rai darllenwyr
Mae menyw wnaeth ddioddef wyth mlynedd o gam-drin corfforol a meddyliol gan ei chyn-gariad wedi dweud ei bod hi’n credu y byddai wedi ei lladd yn y pen draw.
Fis Mawrth eleni, cafodd Thomas Parry, 29 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner yn y carchar gyda hanner o’r amser hwnnw ar drwydded.
Dywedodd Jessica Tasker, 24 ei bod hi eisiau siarad am ei thrawma er mwyn codi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig ac i helpu eraill.
Dywedodd fod Parry wedi dechrau eu rheoli pan oedd hi'n ddim ond 15 oed.
"Doedd e ddim yn fy hoffi i'n gwisgo colur i'r ysgol, fyddai fe ddim yn gadael i mi siarad ag unrhyw ffrindiau oedd yn fechgyn, a doedd e ddim yn fy hoffi i’n mynd allan gyda fy ffrindiau fy hun," meddai.
![Jessica Tasker](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2023-05/Jessica%20Tasker%202.jpg?itok=z2ATs8Xu)
‘Dileu’
"Byddai'n curo cefn fy mhen, byddai'n tynnu fy ngwallt allan. Byddai'n gafael yn fy ngên a'i wthio i'r ddaear ond doedd e erioed wedi fy nharo i ar fy wyneb."
Mae lluniau yn dangos coesau, breichiau a chefn Jessica wedi'u gorchuddio â chleisiau.
Dywedodd Jessica ei bod hi wedi creu cyfeiriad e-bost ac ysgrifennu llythyrau i’w phlentyn i’w darllen os oedd Parry yn ei lladd.
“Fe wnes i eu dileu nhw i gyd oherwydd, roeddwn i’n gwybod y byddai Thomas yn mynd ar fy ffôn unwaith iddo gyrraedd yn ôl - gan edrych ar fy holl negeseuon a lluniau,” meddai.
Ffoi
Yn ôl Jessica, mae hi bellach angen llawdriniaeth ar ei gên ac mae ganddi anafiadau i’w choesau sy’n achosi gwendid.
Dywedodd ei bod wedi dod o hyd i'r dewrder i ddianc o'r diwedd ar ôl sylweddoli na fyddai hi byth yn rhydd o'r gamdriniaeth oni bai ei bod wedi ffoi o'i chartref.
"Roedden ni i gyd yn y fflat, ac fe ges i'r dewrder rhywsut a ffoi pan nad oedd o'n edrych drwy'r drws ffrynt, ac allan i'r stryd," meddai.
Dangosodd y lluniau i aelodau teulu Parry cyn anfon y lluniau at ei mam, oedd yn mynnu y dylai'r heddlu gael gwybod.
"Pan o'n i wedi dweud wrth yr heddlu beth o'n i wedi bod trwyddo ro’n i'n gallu gweld un o'r swyddogion yn dechrau mynd yn emosiynol - dyna pa mor ddrwg oedd fy anafiadau," meddai.
![Thomas Parry](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2023-05/Thomas%20Parry.jpg?itok=DntxwKeF)
‘Hwb’
Nid corfforol yn unig yw clwyfau Jessica – mae ganddi Anhwylder Straen wedi Trawma (PTSD) cymhleth hefyd.
"Mae'r cam-drin emosiynol mewn gwirionedd yn waeth na’r corfforol,” meddai.
“Pan y’ch chi'n gweld y lluniau y’ch chi'n meddwl mai dyna'r rhan waetha', ond i fi, mae'r hyn mae e wedi gwneud i fi yn feddyliol yn llawer gwaeth mewn gwirionedd.
"Dwi jyst yn teimlo mod i wedi torri. Rhai dyddiau dwi'n teimlo'n iawn a dwi'n meddwl fy mod i'n rhydd nawr, dwi'n well nawr, ond ddyddiau eraill dwi jyst yn dechrau crïo achos mae o jyst yn ailchwarae yn fy meddwl.”
Mae Jessica'n gobeithio y bydd eraill yn cael eu hannog i ofyn am gymorth wrth ddarllen ei hanes.
"Ar y dechrau ro’n i'n cadw popeth yn ddienw ac roedd gen i ofn, ond ro’n i'n meddwl efallai y gallwn i helpu person arall i weld beth sydd wedi digwydd i mi,” meddai.
“Ac efallai ei fod yn arwydd neu'n rhoi hwb iddyn nhw feddwl am adael."