Newyddion S4C

Ceffyl a chabanau

Argymhell gwrthod tai gwyliau ar gyfer ceffylau yng Ngheredigion

Mae swyddogion cynllunio wedi argymell gwrthod adeiladu tai gwyliau ar gyfer pobol sydd am ddod a’u ceffylau gyda nhw yng Ngheredigion. 

Mae perchennog y safle ger Llanddewi Brefi yn gobeithio codi adeiladau a fydd yn caniatáu i ymwelwyr ‘glampio’ ochr yn ochor â’u ceffylau.

Cafodd y cais ei wneud er mwyn codi’r adeiladau ar fferm ddefaid 550-acr Penlanwen, tua milltir o Landdewi Brefi.

“Dyma fyddai’r unig safle yng Ngheredigion, a’r trydydd yn unig yng Nghymru gyfan, a fyddai yn cynnig cyfle i ymwelwyr ddod â’u ceffylau ar wyliau,” meddai'r asiant Living Design Consultancy.

Ond mae swyddogion cynllunio Cyngor Ceredigion wedi argymhell gwrthod y cais ar sail y ffaith na fyddai'r adeiladau yn ddigon agos at adeiladau’r fferm.

“Yn ogystal, roedd y safle mewn lleoliad agored yn weledol gyda golygfeydd ar draws Dyffryn Teifi a thu hwnt,” meddai’r adroddiad.

Ychwanegodd y byddai'r adeiladau wedi eu lleoli mewn man “ymwthiol yn weledol”.

Bydd cynghorwyr yn penderfynu ar y cais yr wythnos nesaf.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.