Newyddion S4C

Chris Gunter yn ymddeol o bêl-droed ar ddiwedd y tymor

04/05/2023
Chris Gunter

Mi fydd cyn chwaraewr pêl-droed Cymru Chris Gunter, sydd â thros 100 o gapiau dros ei wlad, yn ymddeol o’r gamp ar ddiwedd y tymor.

Wedi iddo roi’r gorau i chwarae pêl-droed rhyngwladol ym mis Mawrth, mae’r amddiffynnwr wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o bêl-droed yn gyfan gwbl ar ôl y penwythnos hwn.

Mae Cymdeithas Bêl-droed wedi cadarnhau y bydd Gunter yn ymuno â staff hyfforddi Rob Page fel hyfforddwr datblygu tîm Cymru yn barhaol, ar ôl iddo gychwyn mewn rôl dros dro yng ngemau rhagbrofol Euro 2024 fis Mawrth.

Mae Gunter, 33, yn chwarae i glwb AFC Wimbledon yn Adran Dau, ac mi fydd ar gael i chwarae yng ngêm olaf y tymor ddydd Sadwrn oddi cartref yn erbyn Grimsby.

Fe enillodd 109 o gapiau dros Gymru yn ystod ei yrfa, gyda dim ond Gareth Bale wedi gwneud mwy o ymddangosiadau yn y crys coch.

Roedd yn aelod pwysig o'r garfan ryngwladol a lwyddodd i greu hanes drwy gyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth Ewrop yn 2016 a 2020, yn ogystal â Chwpan y Byd 2023.

Mewn datganiad ar Twitter, dywedodd Gunter:

“Ar ôl cymryd peth amser i ystyried, rwy'n cyhoeddi fy mod yn ymddeol o bêl-droed proffesiynol ar ddiwedd y tymor hwn.

“Rwy'n teimlo'n hynod ffodus fy mod wedi profi'r uchafbwyntiau ac isafbwyntiau dros yr 17-18 mlynedd diwethaf.

“Mae dros 720 o gemau wedi dod â llawer iawn o heriau a chyfleoedd, ac yr wyf wastad wedi rhoi popeth i mewn i bob un ohonyn nhw.

“O Ddinas Caerdydd i Tottenham Hotspur, i Nottingham Forest, Reading, Charlton Athletic ac AFC Wimbledon, diolch i’r holl reolwyr oedd yn credu ynof fi a'r holl chwaraewyr dwi wedi bod yn ffodus i rannu'r ystafell wisgo gyda.

“Rwy'n teimlo'n barod ac yn gyffrous ar gyfer pennod nesaf fy ngyrfa. Diolch yn fawr iawn i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, a Robert Page yn arbennig.

“Rydw i wedi cael cwblhau fy mathodynnau hyfforddi a byddaf yn dechrau fy rôl newydd yn yr haf. Mae'n gyfle cyffrous i weithio ochr yn ochr â Rob, a'r staff.”

“Rhaid diolch yn olaf i gefnogwyr pob clwb dwi wedi ei gael pleser o chwarae drostynt. Mae'n golygu popeth i mi! Cymerwch ofal.”

Wrth ymateb i benodiad Gunter, dywedodd Prif Swyddog Pêl-droed CBDC, Dr David Adams:

“Rydym yn falch iawn o groesawu Chris i'n tîm technegol fel hyfforddwr datblygu.

“Bydd ei brofiadau yn ychwanegu gwerth enfawr i'n chwaraewyr ifanc sy'n trosglwyddo i dîm y dynion. ”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.