Adam Price yn ymddiheuro am 'ymddygiad annerbyniol' o fewn Plaid Cymru
Mae Arweinydd Plaid Cymru wedi ymddiheuro i aelodau a staff sydd "wedi profi ymddygiad annerbyniol", wedi i adolygiad gyhuddo'r blaid o "fethu gweithredu" mewn achosion o aflonyddu rhywiol.
Dywedodd Adam Price wrth Newyddion S4C: "Y peth pwysicaf i ddweud heddiw yw i ymddiheuro wrth bawb yn y blaid sydd wedi un ai wedi profi neu wedi gweld ymddygiad sydd yn annerbyniol.
"Nid dyna'r blaid bydden ni'n dyheu i fod. Nid dyna'r gwerthoedd ry'n ni'n arddel. Ond mae'n amlwg bod 'na ddiwylliant wedi datblygu dros gyfnod sydd wedi - yn anffodus - caniatau i'r math yma o ymddygiad fynd rhagddi heb gael ei herio, a dyw hynny ddim yn dderbyniol."
Daeth yr adolygiad, dan arweiniad y cyn-aelod Cynulliad Plaid Cymru, Nerys Evans, i'r casgliad fod Plaid Cymru wedi "methu â gweithredu agwedd dim goddefgarwch tuag at aflonyddu rhywiol" a bod angen ymdrin â nifer o faterion adnoddau dynol "ar fyrder".
Yn ogystal, mae'n honni fod staff y blaid wedi gweld "gormod o achosion o ymddygiad gwael gan aelodau etholedig yn cael eu goddef", ac nad ydyn nhw'n gweld diben codi pryderon.
Mae'r adroddiad, o'r enw "Prosiect Pawb," hefyd yn dweud bod "diffyg arweinyddiaeth a llywodraethu" ar draws y blaid, gan olygu fod y problemau yma wedi "gwaethygu dros y blynyddoedd diwethaf".
Ychwanegodd y gweithgor fod morâl y staff yn isel ac nad oes ymdeimlad cryf o weithio fel tîm.
Dywed yr adroddiad fod tystiolaeth a gafodd ei gasglu gan arolwg dienw diweddar gan staff ac aelodau etholedig yn "amlygu achosion o aflonyddu rhywiol, bwlio a gwahaniaethu."
Mae hefyd yn nodi fod angen i'r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol sicrhau fod y blaid "yn wirioneddol ac yn amlwg groesawgar i fenywod."
Mae Pwyllgor Gwaith y blaid erbyn hyn wedi derbyn adroddiad 'Prosiect Pawb' ac wedi cytuno i weithredu'r holl argymhellion.
'Diogel'
Mae'r adroddiad yn cynnwys 82 o argymhellion yn ymwneud ag aflonyddu rhywiol, llywodraethu ac arweinyddiaeth, diwylliant, prosesau adnoddau dynol, diogelu a phrosesau disgyblu.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd arweinydd y blaid Adam Price a Chadeirydd Plaid Cymru Marc Jones bod prosesau'r blaid wedi bod yn "annigonol".
"Mae unigolion wedi cael eu gadael i lawr o ganlyniad – merched yn arbennig, ond hefyd dynion," medde nhw.
"Mae’n amlwg bod yn rhaid inni wneud yn well os ydym am feithrin diwylliant sy’n ddiogel, yn gynhwysol ac yn barchus i bawb."
Yn y cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd Adam Price ei fod yn bwriadu parhau yn ei swydd er mwyn gweithredu'r newidiadau, er gwaetha'r feirniadaeth yn yr adroddiad.
"Wel, dwi ’di gofyn i’m cyd-aelodau o’m cwmpas a hefyd i’r sawl wnaeth gyfrannu at yr adroddiad: beth yw ’nghyfrifoldeb i ar hyn o bryd?" meddai.
"Y neges dwi ’di cael ydy i beidio rhedeg i ffwrdd, ond i gael y math o sgyrsiau gonest, anodd ’dan ni’n ei gael nawr, a sicrhau bod fi yn helpu i gyfrannu at greu yr amodau lle ’dan ni yn gallu gwella’r sefyllfa o fewn y blaid i’r dyfodol."