Newyddion S4C

babi

Babi wedi marw yn dilyn clwstwr o achosion o myocarditis yn ne Cymru

NS4C 03/05/2023

Mae babi wedi marw yn dilyn clwstwr o achosion o heintiau myocarditis, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r heintiau o’r enterofeirws difrifol yn gallu achosi llid ar y galon ac wedi effeithio ar fabanod ifanc iawn yn ne Cymru. 

Digwyddodd yr achosion o fis Mehefin 2022 ymlaen, gyda brig yr achosion ym mis Tachwedd 2022. 

Roedd y babanod cafodd eu heffeithio yn ieuengach na 28 diwrnod oed. 

Mae deg baban yn y clwstwr wedi datblygu myocarditis; mae un baban yn parhau i fod yn yr ysbyty; wyth yn cael sylw fel cleifion allanol ac mae un baban wedi marw. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal ymchwiliad i’r heintiau ond mae niferoedd yr achosion yn ‘brin iawn’ o hyd, yn ôl y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS. 

Dywedodd: “Mae teuluoedd [y babanod] yn cael eu cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac rwy’n cydymdeimlo â phob un ohonynt.

“Hoffwn gysuro rhieni, er y bu cynnydd mewn achosion, eu bod yn brin iawn o hyd.

“Cynghorwyd pediatregwyr yng Nghymru i ystyried y posibilrwydd o myocarditis mewn babanod sydd â sepsis (gwenwyn gwaed), a bydd hyn yn parhau. 

“Mae gan Gymru system wyliadwraeth dda ar waith ar gyfer enterofeirws ac rydym yn cymryd rhan mewn astudiaeth glinigol i ddeall yr achosion hyn ymhellach a dysgu gwersi, gan gynnwys newidiadau yn y modd y mae heintiau’n cylchredeg ac imiwnedd y boblogaeth yn dilyn y pandemig.”

Mae enterofeirws yn haint cyffredin mewn plentyndod a gall achosi amryw o symptomau. 

Yn anaml iawn y bydd yn effeithio ar y galon a bydd y rhan fwyaf o fabanod a phlant yn gwella yn llwyr. 

Fodd bynnag, mewn babanod ifanc iawn, gall enterofeirws achosi salwch difrifol yn ystod wythnosau cyntaf bywyd. 

Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn gweithio’n agos gyda’r tîm pediatrig yn Ysbyty Plant Cymru.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.