Newyddion S4C

paul anthony evans

Teyrnged i ddyn o Gefn-mawr a fu farw wedi gwrthdrawiad

NS4C 03/05/2023

Mae teulu dyn o Gefn-mawr ger Wrecsam a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad wedi talu teyrnged iddo.

Bu farw Paul Anthony Evans, oedd yn 60 oed, ar ddydd Sul 23 Ebrill yn dilyn gwrthdrawiad ger cyffordd Lôn y Brenin yn y pentref.

Mae ei deulu wedi dweud ei fod yn ddyn cariadus ac unigryw.

“Roedd Fred, fel yr oedd yn cael ei adnabod gan ei ffrindiau a’i deulu, yn dad hynod ymroddedig i ddau o blant – Katie a Tom," medden nhw.

“Mae Fred yn gadael ei gariad o 23 mlynedd, Helen, a phump o wyrion ifanc – Kos, Osian, Leo, Rocco a Harlow. Roedd Fred hefyd yn frawd cariadus ac amddiffynnol i Richard a'i deulu.

"Roedd yn gymeriad mor unigryw, nid oedd neb arall fel ein 'Fred Spanner'.

“Roedd yn berson gweithgar, gofalgar a gostyngedig iawn, a oedd yn caru ei deulu gymaint. Roedd yn caru ei fywyd ac roedd bob amser yn enaid hapus a'n poeni am ddim."

Mae swyddogion yn parhau i apelio am dystion i’r gwrthdrawiad, a oedd yn ymwneud â Ford Mondeo lliw arian.

Mae dyn 51 oed a gafodd ei arestio yn dilyn y gwrthdrawiad wedi’i ryddhau dan ymchwiliad.

Mae gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda'r heddlu drwy ddefnyddio'r cyfeirnod 23000340759.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.