Newyddion S4C

Dynes yn siarad ar ôl dioddef blynyddoedd o gamdriniaeth gan ei chyn-bartner

02/05/2023
Sean Owen

Mae dynes o Gaerdydd a wnaeth ddioddef blynyddoedd o gamdriniaeth gan ei chyn-bartner yn dweud ei bod hi’n benderfynol o ‘anghofio’r difrod’ a wnaeth achosi iddi.

Cafodd Sean Owen o Bontprennau ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth diwethaf ar ôl ei gael yn euog o ymosodiad rhywiol ac ymddygiad gorfodol a rheoli. Cafodd hefyd orchymyn atal yn ei herbyn.

Clywodd y llys fod Owen, 29, wedi camdrin ei gyn-bartner Gabrielle Dale yn gorfforol ac ar lafar dros gyfnod o saith mlynedd, gan arwain at ymosodiad rhywiol.

Yn sgil yr ymosodiad, fe gysylltodd Gabrielle, 26, gyda Heddlu De Cymru ym mis Mehefin 2020.

Mae hi bellach wedi ildio’i hawl i aros yn ddienw, fel dioddefwr trosedd rhywiol, er mwyn annog mwy o bobl sy’n dioddef camdriniaeth i fynd at yr heddlu.

“Dynes annibynnol, gryf”

Mewn datganiad personol, fe ddywedodd: “Er fy mod i dal i ddioddef yn ddyddiol, rydw i’n gwrthod byw fy mywyd yn y ffordd hyn, rydw i eisiau cerdded i ffwrdd o’r sefyllfa wenwynig yma yn y gobaith na fydd e byth yn fy mrifo eto.

“Rydw i’n ddynes annibynnol, gryf nawr. Dw i eisiau gallu anghofio’r holl ddifrod sydd wedi ei wneud.”

Yn dilyn y gwrandawiad llys, fe wnaeth Gabrielle ddiolch i’r swyddog yn yr achos am ei ‘chefnogaeth anhygoel’ yn ystod yr ymchwiliad, gan ddweud: “Rwyt ti wedi fy helpu mewn cymaint o ffyrdd a fy nghysuro pan oedd gen i amheuon. Mi fyddaf wastad yn ddiolchgar am yr help.”

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl David Simmons o Heddlu De Cymru: "Gwnaeth Sean Owen fywyd Gabrielle yn ddiflas, gan ei gadael hi’n teimlo’n ofnus, yn bryderus, a heb unrhyw le i droi.

“Rwy’n gobeithio y bydd dedfryd Owen yn rhoi rhywfaint o gysur iddi hi ac yn ei chaniatáu i ail-adeiladu ei bywyd.

“Mae ymddygiad gorfodol a rheoli yn aml yn cronni dros amser ac rwy’n gobeithio bod y ddedfryd yma hefyd yn helpu eraill sy’n profi’r ymddygiad dinistriol o’r math yma i wybod y bydd pob cwyn yn cael ei chymryd o ddifrif, ac y bydd dioddefwyr yn cael eu cefnogi’n llawn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.