Newyddion S4C

Arbenigwr AI yn gadael Google gan ddweud bod y dechnoleg yn ‘codi ofn arno’

02/05/2023
Geoffrey Hinton

Mae arbenigwr ar AI wedi gadael cwmni Google gan ddweud ei fod yn difaru cyfrannu at y dechnoleg a’i fod bellach yn codi ofn arno.

Mewn cyfweliad ym mhapur newydd y New York Times rhybuddiodd Geoffrey Hinton, sy’n 75, y gallai’r dechnoleg fod yn beryglus.

Roedd ei ymchwil wedi gosod y seiliau ar gyfer datblygiad technolegau newydd gan gynnwys ChatGPT.

Ond wrth i gwmnïoedd gystadlu i ddatblygu AI mwy pwerus na’i gilydd fe allai’r ddynoliaeth golli rheolaeth arno, meddai.

Rhybuddiodd y gallai AI ddatblygu yn fwy clyfar na meddyliau dynol yn fuan.

“Os nad oeddwn i wedi ei wneud fe fyddai rhywun arall wedi – dyna fy esgus i,” meddai.

Ond ychwanegodd: “Mae’n anodd gweld sut fydd modd atal pobl ddrwg rhag ei ddefnyddio ar gyfer dibenion drwg.”

‘Clyfar’

“Wrth edrych ar sut oedd y dechnoleg bum mlynedd yn ôl a sut y mae nawr, ac edrych ymlaen - mae’n frawychus,” meddai Geoffrey Hinton.

“Fe fydd yn anodd iawn i bobol wybod beth sy’n wir yn y dyfodol,” meddai gan gyfeirio at y delweddau, testun a fideos ffug sydd bellach wedi creu gan AI.

“Ychydig iawn o bobol oedd yn credu y gallai’r dechnoleg fod yn fwy clyfar na phobol nes yn ddiweddar.

“Roedd y rhan fwyaf o bobl yn meddwl ei fod ymhell i ffwrdd. Ac roeddwn i'n meddwl ei fod ymhell i ffwrdd.

“Roeddwn i'n meddwl ei fod yn 30 i 50 mlynedd neu hyd yn oed yn hirach i ffwrdd. Yn amlwg, dydw i ddim yn meddwl hynny mwyach.”

Llun: Geoffrey Hinton ac AI.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.