Newyddion S4C

Cyflwyno rhan o ddathliadau coroni'r Brenin Charles yn 'brawychu' Huw Edwards

Huw Edwards

Mae Huw Edwards wedi dweud ei fod wedi ei "frawychu" wrth ystyried y dasg sydd o'i flaen wrth gyflwyno rhan o ddathliadau coroni'r Brenin Charles ddydd Sadwrn.

Wrth siarad â'r Radio Times, dywedodd y cyflwynydd 61 oed o Lanelli ei fod yr un mor "gyffrous" a "wedi'i frawychu" wrth edrych ymlaen at gyflwyno rhaglen sydd yn cael ei darlledu bob ychydig ddegawdau yn unig.

Bydd y cyflwynydd newyddion yn darparu'r sylwebaeth wrth i ddrysau Abaty Westminster agor ar gyfer y seremoni. 

Ychwanegodd ei fod wedi gwylio darllediad coroni 1953 "hanner dwsin o weithiau" wrth baratoi.

"Mae graddfa y digwyddiad yn dychryn rywun," meddai.

"Oherwydd y mwyaf o waith cartref wyt ti'n ei wneud a'r mwyaf wyt ti'n gwylio y darllediad o goroni 1953, oedd yn torri tir newydd, rwyt ti'n sylweddoli bod maint y peth heddiw yn fwy nag oeddet ti wedi ei feddwl.

"Hyd yn oed pan mae'r Palas yn sôn am wneud y peth yn llai, mae'n dal i fod yn ddigwyddiad sydd o ddiddordeb i bobl ar draws y byd, nid yn unig yn y Gymanwlad, ond yn bellach i ffwrdd hefyd.

"Mae yna gynulleidfa mawr iawn ar ei gyfer."

Ychwangodd: "Rydw i'n gyffrous a wedi fy mrawychu, yr un faint a'i gilydd."

Bydd Seremoni’r Coroni yn cael ei darlledu’n fyw ddydd Sadwrn Mai 6, ac fe fydd cyngerdd yn cael ei ddarlledu ddydd Sul Mai 7.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.