Newyddion S4C

Wrecsam: Cyrraedd yr Uwch Gynghrair yw’r nod ‘hyd yn oed os yw’n cymryd 20 mlynedd’

01/05/2023

Wrecsam: Cyrraedd yr Uwch Gynghrair yw’r nod ‘hyd yn oed os yw’n cymryd 20 mlynedd’

Mae Ryan Reynolds wedi dweud mai cyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr yw’r nod i Wrecsam, hyd yn oed os yw’n cymryd 20 mlynedd i wneud hynny.

Mewn cyfweliad arbennig gydag S4C, ychwanegodd Rob Mcelhenney ei fod wedi cynhyrchu 17 cyfres o It's Always Sunny in Philadelphia ac y gallai ei raglen deledu am Wrecsam barhau am flynyddoedd eto.

Daw’r cyfweliad wedi i Wrecsam sicrhau dyrchafiad i Ail Adran Cynghrair Lloegr gyda buddugoliaeth dros Boreham Wood ar y Cae Ras fis diwethaf.

“Wrth gwrs mai ein nod yw cyrraedd yr Uwch Gynghrair,” meddai Ryan Reynolds. “Pam lai? Os yw’n cymryd pum mlynedd, neu 20 mlynedd, dyna’r nod.

“Y peth mwyaf heriol am hynny fyddai'r angen i ailwampio’r stadiwm, ond fe fyddai hynny’n broblem hynod o braf i’w chael.”

Gofynnodd y newyddiadurwr Maxine Hughes a oedden nhw’n bwriadu parhau i wneud y rhaglen Welcome to Wrexham yn y cyfamser.

“Rydw i ar raglen deledu arall,” meddai Rob Mcelhenney. “Mae’n mynd i mewn i’w 17eg tymor.

“A’r rheswm rydan ni’n gallu parhau i’w gwneud hi ydi ein bod ni’n ei charu. Rydan ni’n parhau i gael hwyl.

“Mae yna stiwdio sydd eisiau ei gwneud ac mae yna gynulleidfa sydd eisiau ei gwylio.

“O’n safbwynt ni, mae hyn yn orymdaith tuag at Uwch Gynghrair Lloegr. Does neb yn credu y bydd yn hawdd neu ei fod yn mynd i ddigwydd yn y blynyddoedd nesaf.

“Yn amlwg bydd yn rhaid ni gymryd o leiaf pedwar cam er mwyn cyrraedd yno.

“Ond os gallwn ni gyflawni hynny, a pharhau i adrodd straeon sy’n denu diddordeb pobl drwy gydol yr amser.

“Ac os gallwn ni barhau i ganolbwyntio ar beth rydan ni wedi canolbwyntio arno ar hyd yr amser - nid y clwb na’r tîm neu ni’n dau - ond y gymuned sy’n ffynnu, yna fe allwn ni barhau i wneud y sioe.”

Image
Ryan Reynolds Rob McElhenney
Ryan Reynolds Rob McElhenney. Llun gan: Craig Colville/Huw Evans Agency

‘Grym byd-eang’

Ychwanegodd Ryan Reynolds mai rhan o’u cynllun hir dymor oedd tyfu enw Wrecsam o amgylch y byd.

“Un o’r rhannau cynharaf o’r hyn oedden ni’n anelu ato oedd bod Wrecsam yn rym byd-eang,” meddai.

“Dyw’r gwaith hwnnw heb ei gwblhau eto ond rydyn ni ar y ffordd tuag at gyflawni hynny.

“Pan ydw i’n cerdded gyda fy mhlant i’r ysgol mae 10 neu 15 o bobol yn dweud ‘Go Wrexham!’ – weithiau’n dawel neu’n llawn brwdfrydedd.

“Dydw i erioed wedi gweld unrhyw beth yn tyfu yn rhan o’r zeitgeist mor gyflym â hynny.

“Felly’r nod yw parhau i dyfu enw Wrecsam gartref ac o amgylch y byd. Mae’n stori anhygoel ac mae’n fraint bod yn rhan ohoni.

“Dyna ydw i a Rob yn siarad amdano o hyd – sut i barhau i adeiladu ar bob agwedd o hyn.”

Mae'r cyfweliad llawn ar gael i'w gwylio ar YouTube S4C am 6pm ddydd Llun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.