Donald Trump i ymweld â’r Alban ar ei daith gyntaf i’r DU ers 2019

Mae disgwyl i’r cyn-arlywydd Donald Trump, sy’n wynebu achos llys yn yr Unol Daleithiau, gyrraedd yr Alban yn ddiweddarach ddydd Llun.
Mae disgwyl i awyren breifat y dyn 76 oed lanio ym maes awyr Aberdeen cyn ymweliad â’i cwrs golff ar Stad Menie gerllaw – a agorodd yn 2012.
Nid yw swyddogion Trump wedi datgelu pa mor hir y bydd yn aros.
Mae gan Trump gysylltiadau teuluol ag Ynysoedd Gorllewin yr Alban. Dyma ei ymweliad cyntaf â’r DU ers 2019.
Daw’r daith ar ôl iddo ddod yn arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau mewn hanes i wynebu achos troseddol.
Plediodd yn ddieuog i gyhuddiadau o ffugio cofnodion busnes i guddio gwybodaeth niweidiol cyn etholiad arlywyddol 2016.
Mae'r honiadau'n canolbwyntio ar arian rhoddwyd i Stormy Daniels.
Mae Mr Trump wedi datgan y bydd yn gwneud ymgais i gael ei hethol fel arlywydd y wlad eto yn 2024.