Newyddion S4C

Arweinydd y Wladwriaeth Islamaidd yn Syria wedi’i ladd, meddai Arlywydd Twrci

01/05/2023
S4C

Mae lluoedd Twrci wedi lladd arweinydd y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria, meddai Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan.

Dywedir bod Abu Hussein al-Qurayshi wedi cymryd drosodd y grŵp ar ôl i’w ragflaenydd gael ei ladd llynedd.  

Dywedodd Mr Erdogan wrth y darlledwr TRT Turk fod arweinydd IS wedi ei ladd mewn gweithrediad asiantaeth cudd-wybodaeth MIT Twrcaidd ddydd Sadwrn.

Hyd yn hyn nid yw IS wedi gwneud unrhyw sylw ar y gweithrediad yr adroddwyd amdano.

Roedd asiantaeth gudd-wybodaeth MIT wedi bod yn dilyn Qurayshi ers “amser hir”, meddai Mr Erdogan.

“Byddwn yn parhau â’n brwydr gyda sefydliadau terfysgol heb unrhyw wahaniaethu,” ychwanegodd.

Ar un adeg roedd IS yn dal 88,000 km sgwâr (34,000 milltir sgwâr) o diriogaeth yn ymestyn o ogledd-ddwyrain Syria ar draws gogledd Irac a gosododd ei reolaeth greulon ar bron i wyth miliwn o bobl.

Cafodd y grŵp ei yrru o’i ddarn olaf o diriogaeth yn 2019, ond rhybuddiodd y Cenhedloedd Unedig ym mis Gorffennaf ei fod yn parhau i fod yn fygythiad parhaus.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.