Newyddion S4C

Meddalwedd newydd Snapchat yn cyfathrebu yn Gymraeg

01/05/2023

Meddalwedd newydd Snapchat yn cyfathrebu yn Gymraeg

Mae’r ap boblogaidd Snapchat wedi cyflwyno deallusrwydd artiffisial, neu AI, sydd yn ei alluogi i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg gyda defnyddwyr. 

Gan ddefnyddio data sydd eisoes ar y we, mae’r “ffrind gorau digidol" yn gallu ymateb i bob math o gwestiynau o fewn eiliadau. 

Ond er ei fod ar yr olwg gyntaf yn ddatblygiad cyffrous i’r iaith Gymraeg, mae rhai arbenigwyr yn pryderu am yr effaith y gallai hyn ei gael ar gymdeithas. 

Yn ôl Dewi Jones, prif beiriannydd meddalwedd ym Mhrifysgol Bangor, mae angen bod yn “wyliadwrus a gofalus” wrth ddefnyddio’r math yma o dechnoleg. 

Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Mi fyddwn nhw’n chwyldroi bopeth fyddwn ni’n ‘neud yn y blynyddoedd nesa’ yma. 

“Felly dyna pam mae nifer yn galw ar y broses i gael ei arafu fel bod i ni’n gallu bod yn fwy gofalus gyda sut mae’r AI’s yma yn cael ei rhyddhau,” meddai. 

‘Mwy o gydweithio’

Gyda llawer o’r dechnoleg yn cael ei ddatblygu dramor, mae arbenigwyr yma yng Nghymru’n galw am fwy o gydweithio er lles ein hiaith a’n diwylliant. 

Mae Dr Rhys Jones, uwch darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe yn rhybuddio bod perygl y gallai’r dechnoleg gael ei gamddefnyddio gyda’r iaith Gymraeg yn dioddef o ganlyniad. 

Dywedodd: “O ran y Gymraeg, fel dywedodd Dylan Iorwerth ddegawdau yn ôl, gyda pob technoleg newydd, pob technoleg ar-lein, mae na enillion net a mae ‘na golledion net a allwn ni ond gobeithio y bydd y Gymraeg yn parhau i fod yn y du.” 

Ychwanegodd Dewi Jones: “Mae rhaid i ni bod yn rhan o’r broses o werthuso’r modelau, bod gynnon ni gyfle i weithio ar y modelau hyn a chael mynediad.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.