Newyddion S4C

wxm

Côr yn dathlu llwyddiant pêl-droed Wrecsam drwy recordio hen gân boblogaidd am y clwb

NS4C 30/04/2023

Mae un o gorau'r gogledd wedi dathlu llwyddiant pêl-droed Wrecsam yn sicrhau dyrchafiad i Adran Dau drwy recordio hen gân boblogaidd am y clwb.

Cafodd y gân 'I mewn i'r gôl' ei recordio'n wreiddiol yn 1978 gan Gôr Meibion Brymbo, ac roedd yn boblogaidd iawn ymysg cefnogwyr y Dreigiau yn ystod y cyfnod.

Hon oedd y gân fuddugol yng nghystadleuaeth 'Cân i Wrecsam' y flwyddyn honno, gyda'r trefniant gan Rhys Jones.

Cafodd fersiwn Saesneg o'r gân, 'We're gonna' score', hefyd ei recordio ar y pryd, gyda'r gân Gymraeg yn ymddangos ar un ochr i'r record feinyl saith modfedd, a'r fersiwn Saesneg ar yr ochr arall.

CoRwst o Lanrwst sydd yn gyfrifol am y fersiwn newydd.

Mae'r côr yn gyfarwydd gydag ail-recordio clasuron, ar ôl recordio eu dehongliad o gân 'Cymru, Lloegr a Llanrwst' gan Y Cyrff pan ddaeth yr Eisteddfod i Lanrwst yn 2019.

Dywedodd y côr fod recordio'r fersiwn newydd o 'I mewn i'r gôl' wedi bod yn "llawer o hwyl."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.