Deiseb yn galw am gyswllt rheiffyrdd gwell rhwng y gogledd a'r de yn cyrraedd 10,000 o lofnodion

Mae deiseb sydd yn galw am gyswllt rheiffyrdd gwell rhwng y gogledd a'r de wedi cyrraedd 10,000 o lofnodion.
Dywed trefnwyr y ddeiseb fod angen gwell cyswllt mewnol rhwng dau begwn y wlad gan fod y "daith rhwng gogledd a de Cymru bob amser yn un hir, yn enwedig wrth ddefnyddio’r rheilffyrdd.
"Mae angen i’r rheilffyrdd gysylltu Cymru yn fewnol. Y cynllun ar gyfer gwneud hyn fyddai ail-agor llinellau Bangor - Afon-wen ac Aberystwyth i Gaerfyrddin, ac integreiddio’r rhain â lein y Cambrian, a’r lein o Gaerfyrddin i Gaerdydd."
Dywed gwefan y Senedd fod y Pwyllgor Deisebau’n ystyried pob deiseb sy’n denu dros 10,000 o lofnodion ar gyfer dadl.
Mae'r ddeiseb yn benodol yn galw am:
- Astudiaeth Gwmpasu a Dichonoldeb ar gyfer y lein rhwng Bangor ac Afon-wen
- Ymrwymiad i wario unrhyw arian a geir gan San Steffan ar gyfer y rheilffyrdd ar adfer llinellau rheilffyrdd
- Datblygu glasbrint o’r llwybr rheilffordd rhwng Bangor a Chaerdydd o ran y llwybr arfaethedig
- Edrych ar lwybrau eraill o fewn Cymru y byddai eu hailagor yn fuddiol ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol
Ychwanegodd trefnwyr y ddeiseb: "Os ydym am ddatblygu seilwaith Cymru, a defnyddio dull gwyrddach o deithio, byddai adfer ac ailagor y rheilffyrdd hyn yn gam i’r cyfeiriad cywir a fyddai hefyd o fudd nid yn unig i bob cymuned ar hyd y rheilffordd, ond i Gymru fel gwlad".