Cyfle olaf i Brydeinwyr ffoi o'r ymladd yn Sudan yn dirwyn i ben

Mae cyfle olaf Prydeinwyr sy’n ceisio ffoi'r ymladd yn Sudan wedi dirwyn i ben am ganol dydd.
Roedd yn rhaid iddynt gyrraedd maes awyr yn Khartoum erbyn 12:00 ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi y bydd hediadau allan o’r wlad yn dod i ben ddydd Sadwrn.
Fe fydd yr awyren olaf yn gadael am 18:00.
Roedd y Swyddfa Dramor wedi annog y rhai oedd ar ôl yn Swdan i deithio i safle Wadi Saeedna cyn 12:00 er mwyn cael eu prosesu ar gyfer y daith olaf o'r wlad.
Mae tua 1,573 o bobl ar 13 hediad wedi cael eu cludo o’r maes awyr ger prifddinas Khartoum ond fe allai miloedd yn fwy o ddinasyddion Prydeinig fod ar ôl.
Fe ddaw hyn yn dilyn beirniadaeth o gyflymder ymdrech Prydain i gludo ei dinasyddion o'r wlad, ar ôl i estyniad o dridiau yn y cadoediad rhwng y ddwy ochr sydd yn brwydro am rym yn Sudan.
Mae Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth y DU, Oliver Dowden, wedi gwadu y bydd y Llywodraeth i bob pwrpas yn “gadael” y rhai sydd wedi methu â gwneud y daith allan o'r wlad i'w tynged.
Mae’r Llywodraeth hefyd yn wynebu pwysau o’r newydd i ehangu’r meini prawf i unigolion sydd am adael y wlad ar ôl dweud fod gostyngiad yn nifer y bobl sydd gyda phasbort Prydeinig ac sydd am adael yn rheswm dros ddod â’i ymgyrch achub i ben.
Meini prawf
Mae Downing Street wedi gwrthod galwadau i ehangu'r meini prawf y tu hwnt i ddinasyddion Prydeinig a'u teulu agos.
Mae pryderon wedi codi y gallai’r dull presennol weld teuluoedd yn cael eu rhannu neu rai aelodau’n cael eu gadael ar ôl, gyda'r Blaid Llafur yn galw ar weinidogion i ddefnyddio cyfnod hirach o amser i achub pobl sydd ar ôl.
NEWS: UK evacuation flights from Khartoum are due to end in 24 hours.
— Foreign, Commonwealth & Development Office (@FCDOGovUK) April 28, 2023
The final UK evacuation flight from Wadi Saeedna airfield near Khartoum is due to leave on Saturday (April 29).
Yn dilyn y penderfyniad i ddod â hediadau i ben ddydd Sadwrn, galwodd ysgrifennydd tramor yr wrthblaid David Lammy ar y Llywodraeth i beidio â “throi i ffwrdd” trigolion Prydain sydd heb basbort, gan gynnwys meddygon y GIG sydd yn dal yn y wlad.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Oliver Dowden wrth y BBC: “Rydym mewn cysylltiad â Chymdeithas Meddygon Swdan ac yn trafod yn gyflym gyda nhw i weld pa gymorth pellach y gallwn ei ddarparu ar eu cyfer.”
Llun: Y Swyddfa Dramor