Newyddion S4C

Dyn o Gymru ar goll yng ngorllewin Affrica

29/04/2023
coll

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth am leoliad dyn o'r canolbarth sydd ar goll yng ngorllewin Affrica.

Mae Michael Costain yn 69 oed ac ar goll o’i gartref yn ardal Rhaeadr Gwy, Powys.

Teithiodd Mr Costain i Gambia ar 8 Mawrth am wyliau ac roedd i fod i ddychwelyd i'r DU ar 20 Mawrth.

Y gred yw ei fod wedi aros yn ardal Busumbala yng ngorllewin Gambia am ddau ddiwrnod, cyn gadael gyda'r bwriad o deithio i bentref Abene yn Cassamance yn ne Senegal.

Nid yw Michael wedi cael ei weld ers hynny ac ni wnaeth ddychwelyd i Brydain ar yr awyren yr oedd wedi archebu tocyn i fod arni o flaen llaw.

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20230328-183.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.