Newyddion S4C

Newidiadau i’r Eisteddfod Genedlaethol yn destun ‘siom’ i'r Archdderwydd

Newidiadau i’r Eisteddfod Genedlaethol yn destun ‘siom’ i'r Archdderwydd

Mae'r anghytuno diweddar ynglŷn â newidiadau i'r drefn gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn destun "siom" i'r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd.

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, mae’n dweud fod y ffordd y mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ganolog wedi cyflwyno’r newidiadau yn "gors beryglus".

Dywedodd ei fod yn poeni y gallai’r dull o a ddefnyddiwyd i gyflwyno’r newidiadau corawl osod cynsail peryglus.

“Gallasai gael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau yn y dyfodol fel newid y rheol iaith er enghraifft a steddfod symudol,” meddai.

Ymateb

Cyhoeddodd yr Eisteddfod fis Mawrth fod nifer o newidiadau ar y gweill i’r ŵyl yn Llyn ac Eifionydd, gan gynnwys cyflwyno rhagbrofion i’r cystadlaethau corawl.

Dywedodd yr ŵyl eu bod nhw wedi gwneud hynny yn sgil adolygiad annibynnol o gystadlaethau’r Eisteddfod.

Dywedodd Ashok Ahir, Cadeirydd Bwrdd Rheoli yr Eisteddfod Genedlaethol, ei fod yn hyderus y bydd y brifwyl yn “ardderchog”.

“Rydw i’n parchu’r ffaith fod rhai pobl wedi eu siomi gyda’r hyn ydyn ni wedi ei gyflwyno,” meddai.

“Ond mae cyfle i bobol ddod a cystadlu yn y Steddfod o flaen cynulleidfa swmpus. Ac os ydyn nhw’n mynd drwyddo i’r rown terfynol fe fyddan nhw’n y prif lwyfan.

“Dyna sy’n digwydd ym mhob un cystadleuaeth arall.”

Ychwanegodd ei fod yn “siomi “ bod “rhai unigolion wedi penderfynu dweud pethau yn gyhoeddus ar y pwynt yma, ar ôl iddyn nhw fod yn rhan o’r broses”.

“Mae ’na unigolion sydd wedi bod yn rhan o’r broses, a nhw’n codi llais nawr, a hwn ddim yn ffordd democrataidd.

“A hynny ddim mewn ffordd sy’n deg i bawb arall sydd wedi bod yn rhan o’r broses.

“Ac a bod yn deg, dyw e ddim yn deg i staff yr Eisteddfod a pobl sy’n gwirfoddoli blwyddyn ar ôl blwyddyn.”

“Ni’n mynd ymlaen a symud ymlaen a gwella blwyddyn ar ôl blwyddyn.”

‘Ewyllys da’

Ond gan bwysleisio ei fod yn rhoi ei farn yn bersonol ac nid ar ran Yr Orsedd, dywedodd Myrddin ap Dafydd fod peryg i’r gymuned golli rheolaeth dros yr Eisteddfod.

Pan fo’r Eisteddfod yn cyrraedd ardal benodol, mae’r trigolion, meddai, “yn perchnogi’r ŵyl fel ’Steddfod Ni’,” meddai.

Ond, mae’r Archdderwydd yn teimlo, yn y blynyddoedd diwethaf fod yr elfen yma o berchnogi yn cael “ei danseilio”.

“Dwi’n pryderu bod ’na ddiffyg trafodaeth rhwng y swyddfa ganolog a phobl yr ardal,” meddai.

“Mae’r eisteddfod yn ŵyl anferth” meddai “ac yn destun edmygedd rhyngwladol ac ‘fedir hi ’mond cael ei chynnal drwy ewyllys da Eisteddfodwyr, y dalgylch a hefyd y cystadleuwyr.”

Roedd peidio ag ymgynghori digon gyda’r tair elfen yna “yn siom i mi’ meddai ‘a dwi’n ofni bod hi’n gors go beryglus i fynd iddi,” meddai.

Llun: Yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd, llun gan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.