Newyddion S4C

Cyhoeddi canllawiau cyfergyd newydd ar gyfer chwaraeon ar lawr gwlad

28/04/2023
RYGBI

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau cyfergyd newydd ar gyfer chwaraeon ar lawr gwlad. 

Daw'r canllawiau er mwyn sicrhau fod pobl yn gallu adnabod, rheoli ac atal cyfergyd sydd yn effeithio chwaraewyr mewn chwaraeon. 

Y neges newydd ar gyfer chwaraewyr, hyfforddwyr, rhieni, ysgolion a Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol fydd "Os yn ansicr, peidiwch â'u cynnwys'. 

Mae'r neges hefyd yn pwysleisio na ddylai unrhyw un ddychwelyd i wneud chwaraeon o fewn 24 awr wedi achos o gyfergyd posib.

Cafodd y canllawiau eu datblygu gan banel arbenigol o glinigwyr Prydeinig a rhyngwladol ac academyddion mewn niwroleg a meddygaeth chwaraeon. 

Maent wedi eu creu er mwyn gwella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth er mwyn atal a thrin cyfergyd mewn chwaraeon ar lawr gwlad lle y mae gweithwyr proffesiynol meddygol yn llai tebygol o fod yn bresennol yn rheolaidd. 

Mae chwaraewyr, rhieni, hyfforddwyr ac athrawon hefyd yn cael eu hannog i ddarllen y canllawiau ac i ymgyfarwyddo eu hunain gyda'r camau hanfodol.

Mae'r canllawiau hefyd y cynnwys argymhelliad i alw GIG 111 o fewn 24 awr o gyfergyd posibl, i orffwys a chysgu cymaint ag sydd angen yn y 24-48 awr gyntaf ac i osgoi defnyddio dyfeisiadau lle mae'n rhaid defnyddio sgrin.

Mae dychwelyd yn raddol i waith, addysg a chwaraeon hefyd yn cael ei gynghori er mwyn lleihau'r risg o anaf i'r ymennydd a phroblemau mwy hir-dymor, a dylai unigolion gael eu hasesu gan weithwyr iechyd proffesiynol os ydy symptomau yn parhau am fwy na phedair wythnos. 

'Pwysigrwydd triniaeth gyflym'

Dywedodd yr Ysgrifennydd Chwaraeon Stuart Andrew fod "chwaraeon yn ein cadw ni'n iach ac actif, ond nid yw hyn heb ei risg, ac mae anafiadau sylweddol i'r pen yn gallu, ac yn digwydd.

"Mae ymchwil wedi dangos pwysigrwydd triniaeth gyflym ac effeithiol, ac rydym ni'n cyhoeddi canllawiau arbenigol er mwyn helpu pobl i adnabod a thrin anafiadau i'r pen."

Ychwanegodd chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, Louis Rees-Zammit, ei bod hi'n "bwysig iawn i bawb sydd yn rhan o chwaraeon ar lawr gwlad, beth bynnag eich rôl, i fod yn ymwybodol o'r canllawiau hyn, i adnabod yr arwyddion ac i gymryd y camau cywir i helpu i amddiffyn chwaraewyr yn erbyn cyfergyd. Cofiwch: Os yn ansicr, peidiwch â'u cynnwys."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.