Dyn oedd yn ganolog i ymchwiliad saethu wedi ei ganfod yn farw ar fynydd ym Môn

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi darganfod corff dyn oedd yn ganolog i ymchwiliad saethu ar Ynys Môn.
Daeth yr heddlu o hyd i gorff Grant Barker ar Fynydd Caergybi ar 22 Ebrill.
Cafodd tri pherson eu harestio yn dilyn digwyddiad yng Nghaergybi ar 10 Ebrill, a'r gred yw fod dryll wedi cael ei danio, ond ni chafodd unrhyw un ei anafu.
Cafodd dau berson eu harestio ar amheuaeth o affrae cyn cael eu rhyddhau tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Ers hynny, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio am leoliad Mr Barker, yn wreiddiol o Dreseifion yng Nghaergybi, yn dilyn y digwyddiad gyda'r dryll.
Mae ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un nad oes modd ei hesbonio ar hyn o pryd, ac mae'r llu yn gweithio'n agos gyda'r Crwner.
Mae'r llu hefyd wedi cyfeirio ei hun at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn yr achos yma.
Cafodd Mr Barker ei weld ddiwethaf ar 10 Ebrill cyn cael ei ddarganfod 12 diwrnod yn ddiweddarach, ac mae'r heddlu yn ceisio sefydlu ei leoliadau rhwng y dyddiau hyn.
Mae'r heddlu yn annog unrhyw un sydd gan wybodaeth neu a wnaeth weld neu siarad gyda Mr Barker i gysylltu gyda nhw.