Cyhuddo dynes 46 oed o lofruddio dyn yng Nghei Connah
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhuddo dynes 46 oed o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn yng Nghei Connah ddydd Sadwrn.
Dywedodd yr heddlu bod Emma Berry wedi ei chadw yn y ddalfa, ac fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Llandudno ddydd Mawrth.
Bu farw Dean Michael Bennett, 31 oed, ar ôl cael ei drywanu mewn digwyddiad ar Ffordd y Doc yn y dref.
Cafodd tri o bobl eu harestio ar amheuaeth o lofruddio, gan gynnwys dyn 35 oed a merch 16 oed, sydd erbyn hyn wedi'u rhyddhau'n ddi-gyhuddiad.
Dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd Chris Bell ei fod yn "cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Dean yn ystod y cyfnod anodd hwn".
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu yn yr ymchwiliad hyd yn hyn," ychwanegodd.
"Ond hoffwn annog ymhellach i unrhyw un sydd â gwybodaeth, i gysylltu gyda ni cyn gynted â phosib."