Cyhuddo dyn o geisio llofruddio yng Nghasnewydd

Mae’r heddlu wedi cyhuddo dyn o ymgais i geisio llofruddio ar ôl dod o hyd i ddyn arall mewn cyflwr difrifol ar Stryd Fawr Casnewydd.
Roedd yr heddlu wedi arestio pedwar person ar amheuaeth o fwriadu achosi niwed corfforol difrifol mewn cysylltiad gyda’r achos.
Cafodd dyn 24 oed ei gyhuddo o geisio llofruddio a bod â llafn yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.
Mae wedi ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Casnewydd.
Cafodd y pedwar dyn arall eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i’r ymchwiliadau barhau.
'Cysylltwch'
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi derbyn adroddiad am ymosodiad ar Stryd Fawr Casnewydd am 3.40am ddydd Sul.
Fe wnaethon nhw ddod o hyd i ddyn 24 oed gydag anafiadau gerllaw cyffordd Stryd Griffin.
Mae mewn cyflwr difrifol ond sefydlog ac yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Sedgebeer ei fod yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth.
“Os oes gyda chi CCTV neu ddelweddau dashcam o’r Stryd Fawr neu Stryd Griffin neu os oeddech chi yn yr ardal rhwng 3.15am a 4.15am ar ddydd Sul 23 Ebrill cysylltwch â ni,” meddai.