Darganfod rhagor o ffatrioedd canabis yn ninas Bangor

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi darganfod dwy ffatri ganabis arall ym Mangor.
Dywedodd y llu fod dau o bobol wedi eu harestio ar amheuaeth o gynhyrchu cyffuriau Dosbarth B ar ôl i dyfiant sylweddol gael ei ganfod mewn dau adeilad gwahanol.
Mae ymholiadau yn parhau, a bydd yr heddlu yn parhau i gydweithio gyda chyngor y dref i "gael gwared â'r cynhyrchiant o'r gymuned."
Dywedodd Maer Bangor, Gwynant Roberts, fod y ffaith fod "Bangor wedi cael ei thargedu gan rai gangiau troseddol a difrifol ar gyfer cynhyrchiant canabis ar raddfa fawr yn bryderus ac mae'r pryderon hyd wedi eu codi".
Ychwanegodd fod "landlordiaid a datblygwyr absennol" yn rhannol ar fai am "y cynnydd diweddar mewn gweithgaredd troseddol" am "beidio ymweld â'u heiddo yn gyson".
"Mae Cyngor Dinas Bangor yn edrych ar ffyrdd y gall weithio yn agosach gyda'r Heddlu a chefnogi eu gweithgareddau er mwyn atal y math hyn o weithgaredd troseddol."
Daw hyn wedi i'r heddlu gyhoeddi eu bod wedi dod o hyd i ffatri ganabis “ar raddfa ddiwydiannol” ar Stryd Fawr Bangor ddiwedd Mawrth.
Cafodd ffatri ganabis bedwar llawr mewn adeilad gwag ei darganfod ddiwedd mis Ionawr, ac un arall ym mis Chwefror.