Newyddion S4C

HS2

Y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi galwad Plaid Cymru am arian HS2

NS4C 26/04/2023

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cefnogi cynnig gan Blaid Cymru yn galw am arian "dyledus" i Gymru o brosiect HS2.

Pleidleisiodd Senedd Cymru i alw ar Lywodraeth y DU i ddynodi HS2 fel prosiect i Loegr yn unig, yn hytrach na Chymru a Lloegr, ddydd Mercher.

Dywedodd Plaid Cymru fod y bleidlais unfrydol o blaid y cynnig yn dangos fod Llywodraeth San Steffan wedi “gwneud y peth anghywir”.

Ychwanegodd y Gweinidog Trafnidiaeth Lee Waters bod y peth yn “sgandal”.

Ond dywedodd y Ceidwadwyr y dylai’r arian gael ei wario ar Gymru gan Network Rail yn hytrach na mynd i goffrau Llywodraeth Cymru.

Dywedodd yr Aelod o Senedd Cymru Natasha Asghar y byddai Llywodraeth Cymru yn “gwastraffu’r arian”.

‘Euog’

Daw wedi i Rishi Sunak gael ei gyhuddo o “amddifadu” Cymru ar y pwnc yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog.

Gofynodd Liz Saville Roberts a fyddai yn “pledio’n euog” i gymryd arian oedd yn ddyledus i Gymru.

Ymatebodd Rishi Sunak eu bod nhw’n cydweithio gyda Llywodraeth Cymru ond nad oedd yn credu mai atal adeiladu ffyrdd newydd fel yr oedden nhw wedi gwneud oedd y datrysiad i’r broblem.

Mae HS2 wedi bod yn destun dadlau gwleidyddol yng Nghymru wedi iddo gael ei ddynodi yn brosiect ar gyfer Cymru a Lloegr.

Ar hyn o bryd, dim ond Yr Alban a Gogledd Iwerddon fydd yn cael budd ariannol o'r prosiect a fydd yn y pen draw yn teithio rhwng Llundain a Gogledd Lloegr.

Roedd hynny ar sail y ffaith ei fod yn darparu gwell cysylltiadau rhwng gogledd Cymru a gweddill y DU drwy gyfrwng gorsaf yn Crewe.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.