Agor rhannau o Gastell Caernarfon am y tro cyntaf ers canrifoedd

Mae rhannau o Gastell Caernarfon sydd heb fod ar agor i’r cyhoedd ers canrifoedd wedi ail agor ddydd Iau, wedi tair blynedd o waith i'w hadfer.
Mae Cadw wedi cyhoeddi fod prosiect cadwraeth a datblygu ym Mhrif Borthdy Castell Caernarfon wedi’i gwblhau.
Mae’r buddsoddiad gwerth £5m yn cynnwys gosod dec ar y to a lloriau newydd yn nhyrau’r porthdy.
Yn ogystal, mae lifft wedi’i osod sy’n caniatáu mynediad i bawb i’r lefelau uchaf.
Gobaith y prosiect yw sicrhau bod y castell yn groesawgar ac yn hygyrch ac yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i economi’r ardal leol.
Dywedodd Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw: “Hoffem ddiolch i’n hymwelwyr ac aelodau gwerthfawr Cadw am eu hamynedd yn ystod y tair blynedd o waith cadwraeth a datblygu yng Nghastell Caernarfon.
"Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr o bob gallu i brofi’r rhan hon o’r castell am y tro cyntaf ers canrifoedd, a gobeithiwn y bydd ein dehongliad newydd yn cynnig ffyrdd newydd i ymwelwyr ddeall stori’r Castell.
“Bydd dehongliad y dwylo a adeiladodd y Castell yn annog ymwelwyr i wneud yr union beth hwnnw — gan ganolbwyntio ar y gymuned a’r gweithwyr a fu’n byw yn y Castell.
"Mae eu straeon nhw yn aml yn droednodiadau yn hytrach na phrif ganolbwynt dehongliad hanesyddol. Bydd y dehongliad newydd hwn yn dangos y sgil a’r wybodaeth a ddefnyddiwyd i adeiladu’r castell sydd bellach yn Safle Treftadaeth y Byd.
"Mae hefyd yn cynnig cyd-destun a fydd yn rhoi dealltwriaeth lawnach o’r gwrthdaro dwys a fu rhwng y tywysogion Cymreig brodorol a brenhinoedd Lloegr.”
Hanes Cymru
Mae’r cynllun wedi ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a gan £1.04 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy'r Rhaglen Cyrchfan Denu Twristiaeth, a reolir gan Croeso Cymru.
Yn ganolog i’r prosiect gwella mae dehongliad artistig newydd, sy’n canolbwyntio ar y thema: ‘y dwylo a adeiladodd y Castell’.
Nod y dull modern hwn o ddehongli yw cyflwyno stori’r Castell o safbwynt gwahanol, gan annog ymwelwyr i ailfeddwl sut maen nhw’n gweld hanes y safle, meddai Cadw.
Dywedodd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon: “Mae gwneud ein safleoedd hanesyddol yn fwy hygyrch yn ffordd wych — ac angenrheidiol — o ofalu am henebion hanesyddol Cymru er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
“Mae prosiectau gwella fel yr un yma yn sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at hanes Cymru a dysgu mwy am dreftadaeth y genedl. Bydd dehongliad newydd Cadw yn cefnogi hyn ymhellach, gan wahodd ymwelwyr i ddarganfod straeon llai adnabyddus o hanes y Castell.
“Dyma'r datblygiad diweddaraf yng Nghaernarfon ac y mae’r dref hefyd wedi elwa o raglen ddatblygu helaeth a pharhaus i wella ei statws ymhellach fel cyrchfan eiconig yng Nghymru."