Darn bach o hanes: Legoland yn datgelu model o seremoni coroni’r Brenin

Mae Legoland yn Windsor wedi datgelu model o seremoni coroni’r Brenin cyn y digwyddiad wythnos nesaf.
Mae'r olygfa yn cynnwys y Brenin a’r Frenhines yn sefyll ar falconi, yn chwifio i’r dorf.
Mae’r arddangosiad hefyd yn cynnwys y cerbyd aur a fydd yn cludo'r Brenin i lawr y Mall, y gyngerdd yng Nghastell Windsor a’r teulu brenhinol yn gwylio.
Dywedodd Paula Laughton, prif grëwr modeli Legoland Windsor ei fod wedi cymryd 32,000 o ddarnau Lego i greu'r olygfa.
"Y darn ydyn ni fwyaf balch ohoni yw’r ardal gyngerdd oherwydd mae yna lawer o fanylion ac mae creu ffidlau a ffliwtiau yn dasg anodd,” meddai.
'Cysylltiad'
Wedi’u cynnwys mae modelau o brif berfformwyr y gyngerdd, gan gynnwys Katy Perry, Lionel Ritchie a Take That.
Hefyd, gallwch weld modelau o’r Tywysog a Thywysoges Cymru a’u plant yn y bocs brenhinol.
“Mae'n braf gallu ail-greu cyfnodau eiconig yn hanes Prydain ar ffurf Lego, felly ni allem golli’r cyfle i greu’r achlysur unwaith-mewn-cenhedlaeth hyn ar raddfa fach,” ychwanegodd Ms Laughton.
“Mae’r cysylltiad rhwng Windsor a’r teulu brenhinol mor gryf ag erioed ac rydym yn edrych ymlaen at wahodd gwestai o ar draws y DU a thramor a fydd yn sicr yn mwynhau cael cip olwg ar ein Brenin a Brenhines.”
Bydd y cyhoedd yn medru gweld y modelu yn Legoland Windsor o ddydd Iau.