Pobl ifanc yn dibynnu ar ‘fanc mam a dad’ wrth i gostau byw gynyddu

Mae pobl ifanc yn dibynnu ar ‘fanc mam a dad’ wrth i gostau byw gynyddu, yn ôl data o arolwg YouGov.
Fe wnaeth YouGov holi 10,122 o oedolion a chanfod fod 'banc mam a dad' wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi llawer o bobl ifanc yn ariannol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd tua 83% o bobl 18 i 24 oed a 67% o bobl 25 i 34 oed – cyfanswm o 10.8 miliwn o bobl – eu bod wedi cael cymorth ariannol gan eu rhieni.
Ond rhybuddiodd yr adroddiad fod pobl ifanc yn y grŵp oedran 18 i 24 oed a phobl incwm isel hefyd yn fwy tebygol o fod wedi ymdopi â phwysau cost cynyddol trwy beidio â thalu biliau.
Dywedodd bron i un o bob pump (19%) o oedolion mewn teuluoedd incwm isel eu bod ar ei hôl hi ar o leiaf un bil yn ystod y tri mis diwethaf, meddai’r felin drafod.
Pobl oedran 35 i 44 oed sydd wedi bod fwyaf tebygol o droi at fenthyca ffurfiol, gan gynnwys cardiau credyd, gorddrafftiau neu fenthyciadau ffurfiol eraill, yn ystod y misoedd diwethaf, yn ôl yr adroddiad.
Mae mwy na thraean (37%) wedi gwneud hyn, sydd ddwywaith cymaint â’r rhai 55 oed a hŷn (16%).
'Annhebygol o godi'
Dywedodd Molly Broome, economegydd yn y Resolution Foundation, er y gall troi at ffrindiau a theuluoedd “fod yn achubiaeth wirioneddol os oes cymorth ar gael.”
Dywedodd Dave Finch, cyfarwyddwr cynorthwyol elusen y Sefydliad Iechyd: “Mae’r canlyniadau hyn yn cadarnhau bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith amlwg.
“Gyda phrisiau uchel yn parhau ac incwm yn annhebygol o godi, mae’r darlun hwn yn annhebygol o newid yn fuan.”
Llun: Eduardo Soares ar Unsplash.