
Gwrthwynebu troi hen gartref preswyl yng Ngwynedd yn llety i weithwyr parc gwyliau
Gwrthwynebu troi hen gartref preswyl yng Ngwynedd yn llety i weithwyr parc gwyliau

Mae nifer o drigolion pentref Llanrug ger Caernarfon yn gwrthwynebu cais cynllunio i droi hen gartref preswyl yn llety i weithwyr parciau gwyliau cyfagos.
EA Town Planning Limited, cwmni sydd wedi ei leoli yn Llundain, yw asiant y cais cynllunio i droi hen gartref preswyl Foelas yn dŷ amlfeddiannaeth.
Os daw caniatâd gan Gyngor Gwynedd, bydd 17 ystafell wely yn cael eu creu ar gyfer staff sy'n gweithio yng nghanolfannau gwyliau yn y sir ac o fewn y Parc Cenedlaethol.
Mae gan Lanrug boblogaeth o bron i 3,000 ac mae ymysg y pentrefi sydd â’r canran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.
Fe wnaeth cartref preswyl Foelas gau y llynedd.
‘Cydnabod pryderon’
Mae trigolion wedi lleisio eu gwrthwynebiad ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl derbyn llythyr am y cais cynllunio wythnos diwethaf.
Dywedodd llefarydd ar ran EA Town Planning Limited: "Rydym yn cydnabod nad yw aelodau o’r gymuned leol yn gefnogol i’r cais a gyflwynwyd gennym ar ran ein cleient. Gall datblygiad o'r math hwn ddenu sylw negyddol gan y wasg ac rydym yn cydnabod y pryderon sy'n cael eu codi gan y bobl leol.”
Mae eu pryderon yn cynnwys diffyg lle parcio a diffyg gwybodaeth am y cynllun.
Yn ôl y cais, mae gan y safle faes parcio sy'n darparu lle i wyth o geir, ac maent yn rhagweld y bydd hynny yn ddigonol.
‘Siomi’
Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd y Cynghorydd Sir dros ward Llanrug, Beca Brown: "Mae pobl wedi dychryn ac wedi siomi.

“Mae pobl yn teimlo bod y math yna o le ddim yn addas i Lanrug. Maen nhw’n meddwl troi'r lle yn lle i 17 o lofftydd, a bydd rhai o rheini yn llofftydd dwbl, felly ti’n sôn am o leiaf 17 o geir, ella mwy na hynny," meddai Beca.
"Dyma’r lôn brysuraf yn Llanrug, ’dan ni’n cael heriau parcio a thraffig yma yn barod, felly dydy’r cynllun yma ddim yn fy llawenhau i o gwbl. Dydw i ddim yn meddwl ei fod o’n ddatblygiad addas i’r pentref a ma’ gynnon ni hiraeth o’r cartref preswyl."
Dywedodd llefarydd ar ran EA Town Planning Limited: “O ran y diffyg lleoedd parcio, byddwn yn eich cyfeirio at ein datganiad cynllunio, dylunio a mynediad i gael rhagor o fanylion am y strategaeth a awgrymwyd i ymdrin â’r pryder hwn.”
Newid i’r cais
Roedd y cais gwreiddiol yn nodi y bydd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio gan staff sy'n gweithio ym mharc gwyliau 'Trawsfynydd Leisure Village’ a pharciau gwyliau tebyg ym Mharc Cenedlaethol Eryri gerllaw.
Yn ôl EA Town Planning Limited mae'r cais wedi ei addasu erbyn hyn a does dim cyfeiriad at y parc gwyliau yn Nhrawsfynydd.
“Dwi ddim cweit yn deall sut maen nhw’n honni mai dim ond wyth car fydd yma. Maen nhw yn rhagweld mai llety ar gyfer gweithwyr parciau gwyliau mor bell â Thrawsfynydd, sydd bron i 50 milltir i ffwrdd, felly wrth gwrs byddan nhw angen ceir," meddai Beca Brown.
“A dwi ddim yn meddwl bod digon o le i wyth car yn y maes parcio heb sôn am 17 lle.
“’Swn i’n siomedig iawn os fysa’r cais yma yn cael ei basio, mae 'na deimlad cryf iawn yn Llanrug a fysa fo yn newid yr awyrgylch yma.”

Dywedodd EA Town Planning Limited: “Rydym yn ymwybodol o’r pellter rhwng ‘Pentref Gwyliau Trawsfynydd’ a safle’r cais ac roeddem yn ymwybodol o hyn ar adeg ei gyflwyno.
“Bwriad y Datganiad Cynllunio, Dylunio a Mynediad diwygiedig yw disodli’r datganiad gwreiddiol ac ni chyfeirir at ‘Bentref Gwyliau Trawsfynydd’."
‘Cyfarfod Cymuned’
Bydd cyfarfod cymuned rhithiol yn cael ei gynnal nos Fercher i drafod y cais cynllunio ac mae llefarydd ar ran EA Town Planning Limited wedi cadarnhau presenoldeb y cwmni yn y cyfarfod.
"Gobeithiwn ddefnyddio'r cyfle hwn i gyfiawnhau'r achos dros drosi'r cyn Gartref Gofal Preswyl yn Adeilad HMO. Rydym yn ymchwilio i’r mater ymhellach a gobeithiwn allu cyflwyno ac egluro achos ein cleient yng nghyfarfod y Cyngor Cymuned yr wythnos nesaf," meddai.