Diarddel Andrew Bridgen o'r blaid Geidwadol

Mae AS Gogledd Orllewin Sir Gaerlŷr Andrew Bridgen wedi ei ddiarddel o'r blaid Geidwadol.
Daw hyn wedi iddo gymharu brechlynnau Covid-19 gyda'r Holocost yn ogystal â thorri rheolau lobïo.
Roedd Mr Bridgen eisoes wedi colli chwip y blaid gan olygu ei fod yn eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin fel aelod annibynnol.
Ond mae'r blaid bellach wedi ei ddiarddel rhag bod yn aelod hefyd.
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid fod "Mr Bridgen wedi ei ddiarddel o'r blaid Geidwadol ar 12 Ebrill yn dilyn argymhelliad gan y panel disgyblu.
"Mae ganddo 28 diwrnod o'r dyddiad hwn i apelio."