Newyddion S4C

CPD Bae Colwyn

Tîm datblygu CPD Bae Colwyn i chwarae mewn rownd derfynol wedi 'diffyg cyfathrebu' gan y Gymdeithas Bêl-droed

NS4C 26/04/2023

Mae CPD Bae Colwyn wedi dweud mai eu tîm datblygu, ac nid eu tîm cyntaf, fydd yn cynrychioli’r clwb yn rownd derfynol Cwpan Gwasanaeth Gwaed Cymru yn erbyn y Barri ddydd Sadwrn. 

Mae’r clwb yn dweud eu bod wedi gwneud ymholiadau gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ynglŷn â dyddiad bosib i’r rowndiau terfynol ers mis Chwefror. 

Mae'r clwb yn honni na chawson nhw gadarnhad ynglŷn â’r dyddiadau, a gyda chwaraewyr yn awyddus i wneud trefniadau ar ôl ddiwedd y tymor, eu bod wedi rhoi caniatâd i chwaraewyr y tîm cyntaf i orffen am yr haf yr wythnos hon. 

Daw hyn ar ôl i’r clwb hawlio eu lle yn y rownd derfynol ar ôl ennill rownd derfynol y gogledd yng Nghwpan Gwasanaeth Gwaed Cymru y penwythnos diwethaf. 

O ganlyniad, bydd y clwb yn anfon tîm ifanc i gystadlu yn erbyn y Barri yn y Drenewydd ddydd Sadwrn. 

'Siom'

Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd llefarydd ar ran y clwb: “Ers sawl mis, rydym wedi gofyn am ddyddiadau bosib ar gyfer rownd derfynol y gogledd a chenedlaethol, er mwyn cael cynllunio o safbwynt y clwb, ond hefyd i alluogi chwaraewyr a staff i gynllunio gwyliau a threfnu rhywfaint o amser hamdden haeddiannol ar ôl tymor hir. 

 “Yn anffodus, er i ni wneud ceisiadau dro ar ôl tro dros nifer o wythnosau, yn mynd yn ôl i ddechrau mis Chwefror a chyn ein buddugoliaeth yn y rownd gynderfynol yn erbyn Cegidfa ar 18 Mawrth, ni wnaeth Cynghreiriau Cymru roi'r wybodaeth i ni. 

 “Roedd y chwaraewyr, sydd i gyd yn rhan amser ac sydd gydag ymrwymiadau gwaith a theulu, yn awyddus i ymlacio a sicrhau eu bod yn gallu trefnu eu gwyliau. 

 “Heb unrhyw benderfyniad gan drefnwyr y gystadleuaeth, fe wnaethon ni roi ein bendith iddynt dorri am y tymor dros benwythnos 29 a 30 Ebrill.

"Roedd hyn yn wreiddiol yn bythefnos llawn ar ôl y dyddiadau diwedd tymor a gawsom, ac 17 diwrnod wedi dyddiad gwreiddiol gêm gynghrair olaf y tymor yn erbyn Llandudno."

Ychwanegodd y clwb: “Yn y diwedd, fe gyhoeddwyd dyddiad y gêm ar ddydd Gwener 14 Ebrill – diwrnod cyn ein gêm gynghrair olaf y tymor, oedd wedi ei hail-drefnu, a dim ond pythefnos cyn gêm derfynol genedlaethol bosib. 

 “Felly, oherwydd absenoldebau sylweddol, nid oes gennym unrhyw ddewis ond gosod ein tîm datblygu ar gyfer y rownd derfynol genedlaethol, ac mi fyddwn yn llwyr gefnogi ein tîm ifanc. 

 “Rydym yn siomedig ei fod wedi dod i hyn – yn siomedig i’n cefnogwyr, gwrthwynebwyr y Barri, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Gwasanaeth Gwaed Cymru fel partneriaid y Cwpan a Chlwb Pêl-droed Y Drenewydd, ond nid oes gennym unrhyw opsiwn arall yn y sefyllfa anodd hon.” 

 Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Gymdeithas Bêl-droed Cymru am ymateb. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.