14 o bobl wedi'u lladd mewn digwyddiadau o saethu yn yr Unol Daleithiau
Mae 14 o bobl wedi marw yn dilyn digwyddiadau o saethu mewn taleithiau gwahanol yn yr Unol Daleithiau.
Cafodd pump o bobl eu saethu’n farw yn Douglas, yn nhalaith Georgia.
Cafodd swyddogion heddlu Douglas eu galw’n hwyr nos Wener yn dilyn adroddiad bod ergydion wedi'u tanio mewn cartref.
Yn ôl adroddiadau lleol, mae'r digwyddiad yn cael ei ystyried fel un domestig.
Bu farw naw o bobl, gan gynnwys yr ymosodwr, yn Erie, yn nhalaith Pennsylvania.
Dywedodd pennaeth heddlu Erie bod yr olygfa yn un o'r rhai anoddaf iddo ddod ar eu traws yn ystod ei 28 mlynedd o wasanaeth.
Ychwanegodd yr heddlu fod dau blentyn a menyw feichiog ymhlith y rhai a fu farw.
Dywedodd dinas Erie mewn datganiad bod pob un o'r naw marwolaeth – gan gynnwys marwolaeth yr ymosodwr – wedi digwydd cyn i swyddogion gyrraedd y lleoliad, ac na thaniwyd unrhyw ergydion ychwanegol ar ôl hynny.
Cafwyd rhybudd drwy ShotSpotter, system ddadleuol sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial a rhwydwaith o feicroffonau i nodi sŵn ergydion gwn posibl.
Llun: Heddlu Erie
