Newyddion S4C

Tân diwydiannol yn Hwlffordd ar ôl ‘ffrwydrad’ mewn garej

Tân diwydiannol yn Hwlffordd ar ôl ‘ffrwydrad’ mewn garej

NS4C 22/04/2023

Cafodd 30 o ddiffoddwyr tân eu galw i dân diwydiannol yn Hwlffordd fore Sadwrn yn dilyn adroddiadau o "ffrwydrad" mewn garej.

Fe gafodd chwe chriw o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i’r uned ddiwydiannol ar Stryd Dew am 07.20.

Fe ddefnyddiwyd un platfform awyrol ac un tanc ddŵr i ddiffodd y tân.

Roedd ffrwydradau i’w glywed yn y dref yn ystod y digwyddiad, gyda mwg trwchus yn codi o’r adeilad. Bu’n rhaid i drigolion yn byw’n agos i’r safle gadael eu tai ar gais yr heddlu.

Dywedodd Nayfe Slusjan, un person oedd rhaid gadael ei dy: “Bore llawn digwyddiad wrth i garej leol ffrwydro. Chwarae teg i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Heddlu Dyfed Powys am wneud job anhygoel o reoli’r tân ac arwain ni i ffwrdd o’r safle.”

Image
Tân Hwlffordd

Bu’n rhaid i Heddlu Dyfed Powys gau Stryd Dew am gyfnod, gan ofyn i yrwyr i osgoi’r ardal.

Mae’r lôn bellach ar agor. Ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn y digwyddiad.

Lluniau: Nayfe Slusjan

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.