![Darlun 'Hoffi Coffi'](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2023-04/Screenshot%202023-04-20%20at%2019.35.29.png?itok=c-ykD-_l)
Artist yn creu llyfr llawn lluniau cofiadwy i ddysgwyr Cymraeg
Artist yn creu llyfr llawn lluniau cofiadwy i ddysgwyr Cymraeg
Mae artist o Dongwynlais ger Caerdydd wedi cyfuno ei ddawn greadigol gyda’i awydd i siarad iaith ei famwlad.
Mae Joshua Morgan, yr artist tu ôl i 'Sketchy Welsh', yn creu darluniau “rhyfedd” gyda’r bwriad o’u darlunio'n “gofiadwy” er mwyn gwneud y dasg o ddysgu Cymraeg yn haws.
Er mai cynllun oedd 'Sketchy Welsh' iddo'i hun a'i deulu yn gynharach eleni, mae’r artist bellach wedi derbyn cefnogaeth gan blant ac oedolion sydd yn dysgu Cymraeg ym mhob cwr o Gymru.
Ar ôl treulio ei blentyndod yn Lloegr yn ogystal â chyfnod yn Ne Affrica lle dysgodd sut i siarad yr iaith frodol isiXhosa fel oedolyn, roedd Josh yn awyddus i ailafael yn niwylliant Cymru a’r Gymraeg gyda’i wraig a’i ddau o blant ar ôl iddo ddychwelyd.
‘Ailafael â diwylliant’
O ganlyniad fe grëwyd Sketchy Welsh, sydd bellach yn llwyddiannus ar gyfryngau cymdeithasol, i gysylltu gyda’i “ddiwylliant” a’i “wreiddiau hefyd,” medd Josh.
Wrth siarad am ei awydd i greu adnoddau dysgu Cymraeg dywedodd: “Mewn un ffordd roedd e’n anochel, oherwydd fy mod i’n ddarlunydd ac yn dysgu Cymraeg ar yr un pryd.
“Dwi’n gwybod bod pethau gwahanol neu bethau rhyfedd gyda stori neu brofiadau newydd yn creu dysgu cofiadwy felly mae well ‘da fi i ddarlunio na jyst ysgrifennu lawr mewn rhestr gyda geiriau newydd.”
![Darlun 'Hoffi Coffi'](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2023-04/Screenshot%202023-04-20%20at%2019.35.29.png?itok=c-ykD-_l)
Yn sgil ei lwyddiant mae Josh, sydd yn wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr, wedi creu ei lyfr Cymraeg cyntaf, 'Thirty One Ways to Hoffi Coffi'.
Mae’r llyfr yn ffyddlon i’w steil o ddarlunio sydd wedi’i ysbrydoli gan arddull Quentin Blake, gyda darluniau digrif “o bob math” sydd yn cynnwys cymeriadau ac anifeiliaid yn mwynhau coffi mewn sawl ffordd wahanol.
Gyda chefnogaeth dysgwyr Cymru, dechreuodd yr artist ymgyrch i godi arian er mwyn cyhoeddi’r llyfr ac o fewn un diwrnod fe gyrhaeddodd ei darged ariannol am y mis.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Mae wedi bod yn wych. O’n i trio i godi £1,000 mewn un mis ond o’n i’n codi'r swm yma mewn diwrnod cyntaf.
“Dwi’n teimlo falch ac mae’n gyffrous,” meddai.