Gareth Wyn Jones am barhau i rannu ei fywyd fel ffermwr gyda’r byd ar ôl derbyn negeseuon ymosodol
Gareth Wyn Jones am barhau i rannu ei fywyd fel ffermwr gyda’r byd ar ôl derbyn negeseuon ymosodol

Mae ffermwr o ogledd Cymru wedi dweud y bydd yn parhau i rannu ei brofiadau ar ôl derbyn negeseuon ymosodol ar y rhwydweithiau cymdeithasol.
Dywedodd Gareth Wyn Jones, o Lanfairfechan, ei fod wedi derbyn negeseuon testun a llais yn rhegi arno ac yn ei fygwth.
Daeth y negeseuon diweddaraf mewn ymateb i fideo a gyhoeddwyd arlein gan Gareth.
Roedd wedi blingo oen bu farw’n naturiol ar ei fferm, er mwyn cyflwyno’r croen i oen arall yn y gobaith y byddai mam yr oen fu farw yn ei fabwysiadu.
Mae’r broses yn un sydd yn cael ei ail-adrodd ar ffermydd ar draws Gymru, meddai Mr Jones.
Mae’r fideo wedi denu 378,000 o wylwyr yn y pum diwrnod ers i Mr Jones ei gyhoeddi, ac wedi ei rannu gan gyfrifon ar draws y byd.
Ond denodd negeseupon ymosodol a sarhaus yn ogystal, meddai Mr Jones, a penderfynodd rannu un ohonyn nhw arlein er mwyn tynnu sylw at eu natur annerbyniol.
Mae un o’r negeseuon wedi cael ei adrodd i Heddlu Gogledd Cymru, meddai.
"Gesi'r voicemail mwya' dychrynllyd,” meddai.
“O'dd o'n fy mygwth i, y teulu, even sôn am torri 'y ngwddw i, I'll come over there and cut your throat.
"Mae hyn yn petha reit reit serious a wedyn oni'n sbio arna fo a meddwl dwi mynd i rannu hwn yn gyhoeddus."
Cysylltiad
Mae Gareth yn adnabyddus am rannu ei brofiadau fel ffermwr ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae ganddo dros 118,000 o ddilynwyr ar ei dudalen Facebook a dros 50,000 o ddilynwyr ar Twitter, gan gynnwys pobl ar draws y byd.
Mae’n dweud ei fod yn “bwysig” i roi mewnwelediad cyhoeddus i fywyd cefn gwlad yng Nghymru gan fod pobl “wedi colli cyswllt” gyda sut mae eu bwyd yn cael ei gynhyrchu.
Er gwaethaf y negseuon ymosodol, mae’n benderfynol o barhau i rannu’r cynnwys gyda’i ddilynwyr.
"Mae o'n gyfla i ni rannu stories, mae o'n gyfla lle fedra ni roid y negas allan 'na a gobeithio mae o'n reit onast a mae o'n reit balanced hefyd,” meddai.
"Ni isho pobl ddallt bod rhaid i ni weithia lladd petha i watchad ar ôl rhywbath arall.
"I fi, mynd ymlaen ma addysgu pobl a neud nhw meddwl lle ma' bwyd nhw'n dwad."