Newyddion S4C

Disgwyl i Stryd y Castell gael ei gadw ar agor i draffig cyffredinol

Stryd y Castell

Mae disgwyl y bydd Stryd y Castell yng Nghaerdydd yn cael ei chadw ar agor i draffig cyffredinol yn y dyfodol.

Caewyd y stryd yn llwyr i draffig yn ystod y pandemig Covid-19 yn haf 2020 cyn cael ei ail-agor i dacsis a bysiau ychydig fisoedd yn ddiweddarach.

Roedd rhai wedi gobeithio y byddai’r newid yn un parhaol.

Ond cafodd y stryd ei ail-agor i draffig cyffredinol ‘dros dro’ gan y cyngor yn haf 2021 wrth iddyn nhw benderfynu ar ddyfodol y stryd.

Bydd y cyngor yn trafod y mater mewn cyfarfod ar Ebrill 27.

Fe fyddan nhw’n dewis rhwng caniatáu i bob math o draffig ddefnyddio’r stryd a’i neilltuo ar gyfer tacsis neu fysiau yn unig, medden nhw.

Dywedodd yr aelod o’r cabinet dros drafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De’Ath, fod y dystiolaeth yn awgrymu mai cadw’r stryd ar agor i draffig cyffredinol fyddai orau.

“Mae’r data yn dangos fod cadw Stryd y Castell ar agor yn gwella ansawdd ar aer ynghanol y ddinas ac yn y strydoedd o amgylch,” meddai.

Ychwanegodd y byddai hewlydd eraill yn cael eu cau er mwyn hwyluso cynlluniau ar gyfer cynllun ‘Crossrail’ Caerdydd.

“Mae hwn yn gynllun cyffrous a fydd yn newid trafnidiaeth gyhoeddus ar draws Caerdydd,” meddai.

Llun: Stryd y Castell gan Alex Seabrook.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.