Newyddion S4C

Angen 'trawsnewid' stryd fawr Bangor os am barhau i ddenu siopwyr

13/04/2023

Angen 'trawsnewid' stryd fawr Bangor os am barhau i ddenu siopwyr

Mae angen trawsnewid stryd fawr Bangor drwy gael llai o siopau a denu cyfuniad o fusnesau cenedlaethol ac annibynnol er mwyn diogelu dyfodol y ddinas. 

Dyna farn un gŵr busnes sydd newydd brynu canolfan siopa mwya’r ddinas sydd ar hyn o bryd 80% yn wag. 

Mae un academydd hefyd yn credu y gallai dinas Bangor brofi budd o fuddsoddiad i greu trefi a dinasoedd gwyrddach.

Yn ôl Dr Siwan Mitchlemore o Brifysgol Bangor mae angen i gyfuniad o rhanddeiliaid i ddod ynghyd os am wneud llwyddiant o’r buddsoddiad diweddaraf. 

Image
Stryd fawr

Mae'r heriau sy'n wynebu stryd fawr hiraf Cymru yn rhai cyffredin ledled y wlad, ond gyda siopau mawr fel Debenhams a H&M oll wedi gadael Bangor yn ddiweddar, mae ‘na alw o’r newydd wedi bod am gymorth. 

Fe fu’r siopau hynny yn rhan o Ganolfan Menai sydd yng nghanol y ddinas ac yn 130,000 troedfedd sgwâr.

Gyda dros ugain o unedau angen eu llenwi, mae cwmni Rob Lloyd, Bearmont Capital newydd brynu’r safle ac yn dweud eu bod yn hyderus y gallen nhw fod yn rhan ganolog o’r ateb i achub y ddinas. 

Image
Rob Lloyd
Rob Lloyd

“Yndi, mae’n her a hanner ond os edrychwch chi ar y ganolfan yma fel catalydd ar gyfer canol dinas Bangor i gynyddu'r nifer o siopwyr sy’n dod yma i’r ganolfan ac i’r stryd fawr yn gyffredinol, dyma yn union beth sydd ei angen," meddai Rob Lloyd.

Yn ôl Mr Lloyd mae busnesau eisoes yn dangos diddordeb ac mae’n gobeithio bod modd cadarnhau rhai enwau mawr yn fuan. 

“Mae’n rhaid, bron a bod, ail ddyfeisio'r stryd fawr," meddai. 

“Dydi canolfannau siopau newydd ddim yn cael eu codi, mae nhw rhy ddrud, felly mae’n rhaid bod yn greadigol ac mae angen dod a’r gymuned ynghyd i weld be mae nhw eisiau, eu hangen wrth symud ymlaen."

Yn ôl Mr Lloyd eu prif nod yn y tymor byr yw cynyddu'r nifer o bobl sy’n dod i ganol y ddinas ac yna ma’n dweud bod lle i gael cyfuniad o siopau mawr cenedlaethol, ac annibynnol Cymreig i roi profiad unigryw i siopwyr. 

Ond gydag oddeutu deugain o siopau gwag yn gorwedd rhwng dau begwn stryd hira Cymru, mae’r busnesau sy’n weddill yn galw am weithredu nid geiriau’n unig. 

Image
Andy White

Mae Valerie ac Adrian White wedi bod yn gwerthu cardiau ac anrhegion yn y ddinas ers dros 30 o flynyddoedd, a rŵan yn ystyried rhoi’r gorau iddi os na fydd pethau’n gwella.

“Mae angen siopau dillad, ‘sgidiau, siopau bwyd- mae nhw di cau Aldi ac Iceland lawr," medden nhw.

“Mae o’n marw bob blwyddyn ac yn enwedig jest cyn y pandemig mi oedd hynny’n wahaniaeth- pobl rŵan yn gweithio o gartref a ‘dy nhw ddim yn dod mewn i gael panad.

“Y peth ydi i ni, mai’n anodd i ni efo expenses yn enwedig i gyfro electrig sydd 'di mynd fyny hefyd, mai’n anodd cario mlaen efo footfall - dau gwsmer da ni 'di cal bore ma.”

Wrth ymateb i’r buddsoddiad dywedodd Valerie ei bod hi’n gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth ac yn rhoi rheswm i bobl ddod yn ôl.

Image
Siop ar gau

Mae Cyngor Gwynedd yn mynnu fod cynlluniau ar y gweill gyda datblygiadau fel rhai diwylliannol Nyth Fran Wen, ail ddatblygu parc y brifysgol a chynlluniau llesiant.

“Fel cymaint o ganol dinasoedd a threfi eraill dros Gymru a thu hwnt ma' nhw wedi dioddef yn aruthrol oherwydd y pandemig a ffactorau eraill, a ma' rhaid i ni ailfeddwl sut fath o ganol dinas i ni angen fan hyn ym Mangor," meddai Dirprwy Faer Bangor, y Cynghorydd Sir Elin Walker Jones. 

“Yn amlwg i ni'n croesawu'r buddsoddiad. Hon yw dinas Bangor, dinas gogledd Cymru, dinas Gymreiciaf y byd, mae'n rhaid i ni fod yn falch iawn o hynny."

Mae cynllun hir dymor gan Lywodraeth Cymru a chynghorau sir hefyd i fanteisio ar dechnoleg wyrdd a chreu defnydd gwell o Drafnidiaeth Gyhoeddus. 

Image
Siop ar gau

Yn ôl Dr Siwan Mitchlemore o ysgol fusnes Prifysgol Bangor, fe all hyn fod yn gyfle i Fangor ail ddatblygu. 

“Fasa’n help i’r broses, yr hyn sy’n denu pobl i ganolfannau tu allan i Fangor ydi parcio," meddai. 

“Mae’r enwau mawr yn denu nhw i fanno felly fasa ffeindio ffordd fwy cynaliadwy i ddenu pobl mewn, neud y siwrne yn haws a rhatach, yn gyfleus, yn sicr yn gallu helpu denu mwy o siopwyr i’r stryd fawr." 

Mae hefyd yn pwysleisio fod yn rhaid gweithredu rŵan er mwyn atal rhagor o ddirywiad. 

Gyda Bangor yn enghraifft o drafferthion ledled trefi a dinasoedd Cymru mae 'na obaith y gallai buddsoddiad o’r newydd fod yn achubiaeth i stryd fawr hira’r wlad. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.