Newyddion S4C

Galwadau ar Fanc Datblygu Cymru i weithredu'n fwy cyflym

Newyddion S4C 11/04/2023

Galwadau ar Fanc Datblygu Cymru i weithredu'n fwy cyflym

Mae darogan y gallai mwy o fusnesau droi am gymorth at Fanc Datblygu Cymru yng nghanol peth ansicrwydd pa mor fodlon fydd banciau i fenthyg arian yn y dyfodol.

Ers ychydig dros bum mlynedd mae'r Banc wedi bod yn buddsoddi mewn busnesau, a chynnig benthyciadau.

Ond mae yna awgrym nad ydyn nhw yn gwneud hynny'n ddigon cyflym ar bob achlysur.

Mae cysylltiadau cwmni Aparito'n ymestyn i bedwar ban byd - cwmni gafodd fuddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru rai blynyddoedd yn ôl. 

O'u swyddfeydd yn Wrecsam, mae'r cwmni'n ei gwneud hi'n bosib i bobl lawrlwytho ap ac yna cymryd rhan mewn treialon meddygol o'u cartrefi eu hunain, heb fod angen mynd i'r ysbyty.

Mae'r ap ar gael mewn pymtheg o wahanol ieithoedd, gan gynnwys Siapaneeg a Hebraeg. 

Erbyn hyn mae dros dri deg yn gweithio i Aparito.

"Mi gaethon ni fuddsoddiant bum mlynedd yn ol gan Fanc Cymru," meddai'r Prif Weithredwraig Elin Haf Davies, "ac wrth gwrs roedd hynny'n bwysig iawn i ni allu cychwyn cyflogi a chychwyn y swyddfa yma, a cyflogi staff technoleg yma yng Ngogledd Cymru.

"Felly dwi yn gwerthfawrogi bod ni wedi cael yr arian yna bum mlynedd yn ol."

Ers ei sefydlu yn 2017 mae Banc Datblygu Cymru wedi bod yn helpu busnesau naill ai drwy gynnig benthyciadau, neu fuddsoddi'n y busnes drwy brynu cyfran ohono. Erbyn hyn maen nhw'n dweud eu bod wedi buddsoddi £528m yn uniongyrchol mewn busnesau, a chefnogi 32,862 o swyddi. 

Dywedodd Cyfarwyddwr Busnes Newydd Banc Datblygu Cymru Bethan Cousins:

"Y ni'n gweithio gyda phob busnes, ni'n trial ffeindio rhyw fath o fuddsoddiad hyblyg iddyn nhw ac yn annog nhw i ddod i siarad gyda ni fel bod ni'n gallu gweld sut yn ni'n gallu helpu."

Cymorth

Gyda dyfalu y gall banciau masnachol fynd yn llai parod i fenthyg arian i fusnesau - a Banc Datblygu Cymru'n gweld tystiolaeth o hynny mewn rhai meysydd - fe allai mwy o gwmniau droi atyn nhw am gymorth.

Eto i gyd, er bod Aparito'n gwerthfawrogi'r cymorth gawson nhw, mae Elin Haf Davies yn credu y gall Banc Cymru weithredu'n fwy cyflym.  

"Yn fy marn i mae na ddiffyg cymorth a chyngor commercial felly ... angen gweithio'n gyflym, gweithio ar frys achos dan ni'n gweithio efo cwmnia sy'n disgwyl commitment ac ateb fory a drennydd.

"O'n profiad ni dan ni yn ei chael hi'n anodd iawn i gael y cymorth sydd ei angan ar frys a'r dealltwriaeth o'r telerau commersial da ni'n gorfod gweithio o fewn ar y funud."

Ydy Bethan Cousins yn derbyn hynny?

Dywedodd: "Mae pob busnes yn wahanol a dwi'n credu un o'r pethau yn ni wedi neud yn y flwyddyn ddiwetha yw i edrych ar sut yn ni yn gallu cyflymu'n prosesau bod ni'n tynnu'r baich oddi wrth y cwmni a bod ni'n gwneud penderfyniadau'n gyflym.

"Roedd dros saith deg y cant o'n buddsoddiadau ni yn fuddsoddiadau bach y flwyddyn ddiwetha, a roedd hanner nhw wedi cael ymateb o fewn pedwar deg awr o ymgeisio i'r banc. Felly yn ni yn edrych ar ffurflenni yn gallu ymateb yn gyflym pan y ni'n gallu.

"Ni wastad yn trio gwneud rhywbeth mor gyflym a ni'n gallu. Ond gan fod yr economi'n sialens ac yn her ar hyn o bryd mae'n rely bwysig bod ni'n deall beth yn gwmws sydd yn mynd ymlaen o fewn y cwmni fel bod ni'n buddsoddi yn gyfrifol." 

Mae Banc Datblygu Cymru'n dweud y cafodd dros bum cant o gwmniau gymorth yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.