Eurovision 2021: Dim cynrychiolaeth i Gymru y tro hyn?

Ar drothwy Eurovision 2021, mae pobl wedi bod yn galw am gynrychiolaeth Gymreig yn y gystadleuaeth.
Mae Cymru wedi gwneud cais yn y gorffennol i gael cystadlu yn y gystadleuaeth fel gwlad yn annibynnol, ond mae’r ceisiadau wedi bod yn aflwyddiannus hyd yma.
Dywed Nation.Cymru fod y gantores, Bronwen Lewis, eisoes wedi cynnig ei hun fel cynrychiolydd dros Gymru.
Mae Eurovision yn cael ei chynnal yn Rotterdam yn yr Iseldiroedd nos Sadwrn.
James Newman sydd â’r dasg o geisio adfer record wael y Deyrnas Unedig dros y blynyddoedd diwethaf – gyda’r safle olaf neu olaf ond un yn un cyfarwydd.
Mae Nation.Cymru yn adrodd fod nifer o Gymry wedi cynrychioli’r Deyrnas Unedig dros y blynyddoedd, neb llai na Mary Hopkin yn 1970, Jessica Garlick yn 2002, Bonnie Tyler yn 2013 a Lucie Jones yn 2017.
Roedd y Gymraes, Nicky Stevens, yn aelod o’r band Brotherhood of Man, a enillodd y gystadleuaeth yn 1976.