Donald Trump yn paratoi am frwydr gyfreithiol medd ei gyfreithiwr
Mae cyn-arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, yn “paratoi ar gyfer brwydr” cyn ei wrandawiad llys ddydd Mawrth, meddai ei gyfreithiwr.
Mae disgwyl i Mr Trump hedfan i Efrog Newydd o'i gartref ym Mar-a-Lago ddydd Llun i wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â thaliadau honedig i’r seren ffilmiau porn Stormy Daniels.
Wedi’r gwrandawiad llys, mae Mr Trump yn bwriadu dychwelyd i Florida i annerch ei gefnogwyr.
Mae Mr Trump wedi parhau i wadu unrhyw gamwedd.
Fe wnaeth ei gyfreithiwr, Joe Tacopina, addo y bydd unrhyw gyhuddiadau yn erbyn y cyn-arlywydd yn cael eu hymladd yn frwd.
Wrth siarad ar raglen ‘This Week ABC’ ddydd Sul, dywedodd Mr Tacopina, "Rydym yn barod am y frwydr hon. Ac rwy'n edrych ymlaen at symud y peth hwn ymlaen cyn gynted â phosibl i'w ddiarddel."
