Newyddion S4C

Addysg rhyw: ‘Doedd dim terfysg’ meddai cynghorydd Cyngor Gwynedd

Louise Hughes Cynghorydd Gwynedd

Mae un o gynghorwyr Gwynedd wedi dweud fod pryderon dros un o gyfarfodydd y cyngor i drafod addysg rhyw wedi eu “gor-bwysleisio”.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i siambr Cyngor Gwynedd haf y llynedd ar ôl i gyfarfod arbennig o'r cyngor gael ei atal oherwydd ymddygiad unigolion yn yr oriel.

Ers hynny mae Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno newidiadau er mwyn diogelu cynghorwyr a staff ar ôl i nifer ddweud nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel.

Ond dywedodd y Cynghorydd annibynnol Louise Hughes, sy’n cynrychioli Arthog a Llangelynnin, nad oedd neb “erioed mewn unrhyw risg corfforol” yng nghyfarfod mis Awst.

Roedd y cyfarfod brys wedi ei alw yn dilyn cynnig gan garfan o gynghorwyr o dan arweiniad Louise Hughes, oedd yn herio polisi newydd Llywodraeth Cymru ar addysg rhyw mewn ysgolion.

Ond roedd rhai o gynghorwyr a staff Cyngor Gwynedd wedi dweud nad oedden nhw'n teimlo'n ddiogel yn ystod dadl ffyrnig.

Amharwyd ar y cyfarfod gan heclo o’r oriel gyhoeddus, cafodd swyddogion heddlu eu galw i mewn, ac fe gafodd cynghorwyr eu dal yn ôl yn y siambr am “resymau diogelwch” ar y diwedd.

Ond dywedodd Louise Hughes nad oedd “perygl corfforol i’r cynghorwyr nac i neb”.

“Doedd yna ddim unrhyw drais na bygythiadau, ac yn sicr doedd ddim angen dod â'r heddlu i mewn,” meddai.

“Dw i wedi gweld cyfarfodydd llawer mwy stwrllyd pan wnaethon ni drafod cau ein hysgolion pentref. Os na allwn gael dadl gadarn neu wrthwynebol yn ystod cyfarfodydd y cyngor, yna beth yw pwynt democratiaeth leol?”

‘Brawychus’

O dan fesurau diogelwch newydd y cyngor, fe allai ystyried cyflogi cwmni diogelwch pe bai risg uchel mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

Bydd hefyd mwy o wasanaethau cymorth iechyd meddwl a diogelwch personol i staff a chynghorwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Ann Jones wrth gyfarfod Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd Gwynedd y mis hwn ei bod wedi ceisio cymorth gan yr heddlu ynghylch sylwadau a wnaed ar-lein ar ôl cyfarfod mis Awst.

Clywodd y cyfarfod hefyd fod y Cynghorydd Beca Brown wedi’i thargedu, a disgrifiodd y Cynghorydd Stephen Churchman gyfarfod mis Awst fel un “mwyaf brawychus”.

Diogelwch 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd mai diogelwch a lles cynghorwyr, staff a’r cyhoedd yw eu “blaenoriaeth uchaf”.

Wrth gyfeirio at gyfarfod mis Awst, dywedodd y llefarydd: “Er gwaethaf sawl rhybudd gan y cadeirydd, parhaodd yr aflonyddwch felly cafodd y trafodion eu gohirio am 15 munud.

“Fel rhagofal, ystyriwyd ei bod yn briodol gofyn am bresenoldeb Heddlu Gogledd Cymru i sicrhau y gallai gweddill y cyfarfod fynd yn ei flaen yn ddiogel ac yn drefnus.

“Yn dilyn hyn, ac yng ngoleuni digwyddiadau cenedlaethol, cynhaliodd y cyngor adolygiad diogelwch ar gyfer prif siambr y cyngor ac ystafelloedd cyfarfod cyhoeddus i sicrhau y gellir cynnal trafodaeth iach heb ofni bygythiadau na thrais.

“Ers yr adolygiad hwn, cynhelir asesiad risg cyn pob cyfarfod cyngor unigol ac mae trefniadau newydd hefyd wedi’u rhoi ar waith.”

Roedd mesurau diogelwch yn cynnwys loceri i storio bagiau cyn mynd i mewn i’r oriel gyhoeddus, ac arwyddion i atgoffa pobl i barchu rheolau, a’r defnydd posibl o griw diogelwch preifat.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: “Rydym yn annog unrhyw un o’n haelodau etholedig i gysylltu â’r cyngor neu’r heddlu os ydyn nhw’n teimlo dan fygythiad neu wedi eu brawychu mewn unrhyw ffordd, mewn perthynas â’u gwaith fel cynghorwyr.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.