'Neb ar goll' wedi i gwch gael ei ddarganfod heb griw ar y môr
Mae Heddlu'r Gogledd wedi dweud eu bod yn fodlon nad oes neb ar goll yn dilyn darganfod cwch yn y môr heb griw ger Bae Colwyn ddydd Sadwrn.
Am oddeutu 06.00 y bore cafodd yr heddlu wybod am y cwch yn y môr rhwng y pier a Phorth Eirias.
Dywedodd Gwylwyr y Glannau fod ymdrechion i dod o hyd i berchnogion y cwch heb ganfod unrhyw atebion.
Mewn diweddariad ddydd Sul, dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod "yn fodlon nad oes unrhyw bobl a allai fod ar goll o'r cwch.
"Diolch i’r holl aelodau hynny o’r cyhoedd a ddaeth ymlaen gyda gwybodaeth am amgylchiadau’r cwch “Phoenix Hardy” a oedd ar goll ac wedi’i olchi i’r lan ar draeth Bae Colwyn.
"Mae ymholiadau'n parhau i ddeall yr amgylchiadau arweiniodd at olchi'r cwch i'r lan."