Ymchwiliad sgandal gwaed: Dioddefwyr wedi 'cael cam'

Newyddion S4C 20/05/2021

Ymchwiliad sgandal gwaed: Dioddefwyr wedi 'cael cam'

Mae cyn-Weinidog Iechyd Cymru wedi dweud fod pobl oedd wedi derbyn gwaed oedd wedi ei heintio gyda HIV a hepatitis C wedi "cael cam" gan y wladwriaeth. 

Roedd Vaughan Gething AS yn ymateb i ymchwiliad cyhoeddus sy'n edrych ar yr hyn ddigwyddodd. 

Dywed Mr Gething nad oedd pobl wedi cael cyfiawnder o ganlyniad i'r sgandal. 
 
Yn y 1970au a'r 80au, fe dderbyniodd miloedd o gleifion hemoffilia gynhyrchion gwaed gan y Gwasanaeth Iechyd a oedd wedi ei heintio â HIV a hepatitis C.

Bu farw tua 3,000 o bobol yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad.

Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r gefnogaeth ariannol i'r teuluoedd gafodd eu heffeithio. 

Mae Rachel McGuinness yn un o'r rheiny gafodd ei heffeithio gan y sgandal, ar ôl i'w thâd gael ei heintio gyda HIV wrth dderbyn triniaeth ar gyfer hemoffilia.

'Dyn reit ifanc'

“Odd dad yn 47 pan fuodd o farw," meddai.

"So odd e 'di cael diagnosis pan oedd o tua 41 ffor' 'na, so odd o'n dyn reit ifanc efo dau o blant.”

“Odd o'n brofiad eithaf erchyll pan 'da chi'n edrych nôl arno fo. Odd dad 'di mynd yn sâl, odd ym mrawd a fi yn gorfod helpu edrych ar ei ôl o.

"Wrth gwrs odd nain a thaid a chwiorydd yn nhad wedi cael eu heffeithio a'i theuluoedd nhw - felly odd y fatha'r 'knock on effect' dros y teulu cyfan.

"Nid yn unig mam a fi a Siôn, ond wrth gwrs y teulu mwy eang. Odd pawb 'di cael sioc aruthrol, pawb yn trio helpi'i gilydd i ddod trwy'r holl beth. Ag dwi'n meddwl oedd pawb yn ffeindio fo'n reit anodd. Ac mae dal yn anodd rwan pan 'da ni'n edrych yn ôl.

"Dwi'n meddwl bod yr ymchwiliad yn bwysig i deulu ni fel bod ni'n gallu cael cydnabyddiaeth bod, dim yn unig fod dad wedi marw, ond bod y teulu cyfan 'di cael eu effeithio.

"Ac wrth gwrs bod 'na filoedd ar filoedd o deuluoedd fel ni sydd wedi innau colli rhywun neu weithiau mae rhai teuluoedd wedi colli cenhedlaeth gyfan o ddynion yn eu teuluoedd nhw.

"So mae'n bwysig bod yr ymchwiliad yn cydnabod hyn a hefyd edrych i roi iawndal i'r bobl sydd wedi cael eu heintio gyda HIV."

Image
Vaughan Gething

'Byw hefo'r methiant'

Wrth gyflwyno tystiolaeth i'r ymchwiliad, dywedodd Mr Gething: “Mae pobl mewn sefyllfa lle maen nhw'n dioddef heddiw oherwydd bod y wladwriaeth wedi cael hyn yn anghywir.

"Maent wedi gorfod byw gyda'r methiant hwnnw am amser hir iawn."

Dywedodd Mr Gething eu bod nhw’n haeddu iawndal a bod “cyfiawnder wedi’i wadu”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.