Newyddion S4C

Cleifion yn 'cysgu ar lawr' mewn adran achosion brys ysbyty yn Sir Gâr

17/03/2023
glangwili

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sydd yn amlinellu'r heriau a wynebir gan staff yn Adran Achosion Brys Ysbyty Cyffredinol Glangwili.

Daeth yr arolygiad i'r casgliad nad oedd y cleifion yn cael gofal diogel yn gyson, er ymdrechion y staff, gyda rhai'n gorfod "cysgu ar lawr am gyfnodau hir."

Nodwyd fod y staff "yn gweithio'n galed iawn i roi gofal o safon dda i gleifion, ond roedd angen gwneud nifer o welliannau", ac yr oedd angen i'r bwrdd iechyd gymryd camau mewn perthynas â rhai ohonynt ar unwaith.

Cwblhaodd AGIC arolygiad dirybudd o'r adran achosion brys ar dri diwrnod dilynol ym mis Rhagfyr 2022.

Yn ystod yr arolygiad ar y safle, nododd AGIC feysydd lle roedd y pwysau a'r heriau yn yr adran a'r ysbyty yn fwy cyffredinol yn arwain at risg gynyddol i gleifion.

Wrth ymateb i'r arolygiad, dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn falch bod ymroddiad a gwaith caled ein staff yn cael eu hadlewyrchu yng nghanfyddiadau tîm arolygu AGIC.

"Tra bod yr adroddiad yn nodi bod cleifion a gofalwyr yn gyffredinol yn fodlon ar y gwasanaeth a gawsant yn yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glangwili, rydym, fodd bynnag, yn cydnabod bod heriau sylweddol o fewn yr Adran.

"Rydym hefyd yn cydnabod yr effaith anffodus y mae'r rhain yn ei chael ar ein cleifion a’u profiad o ddefnyddio ein gwasanaethau. Nid yw’r heriau hyn yn unigryw i Ysbyty Glangwili ac maent hefyd yn cael eu hwynebu gan y GIG ledled Cymru a’r DU.

“Rydym am roi sicrwydd i bobl ein bod yn canolbwyntio ar ein cynllun gwella i fynd i’r afael ag argymhellion yr adroddiad, ac i roi sicrwydd parhaus i’n cymunedau o ansawdd y gwasanaethau sydd gennym i’w cynnig a’u darparu."

Pan holwyd cleifion a gofalwyr, gwnaethant ddweud eu bod yn fodlon ar y gwasanaeth roeddent wedi'i gael ar y cyfan, a gwelodd yr arolygwyr y staff yn trin cleifion â pharch a chwrteisi.

Ond mynegodd cleifion hefyd eu rhwystredigaeth am yr amseroedd aros a'r diffyg gwybodaeth am eu gofal a'u triniaeth.

'Heriau sylweddol'

Roedd yr heriau sylweddol o ran sicrhau llif cleifion drwy'r ysbyty yn golygu bod yn rhaid i gleifion aros yn yr uned achosion brys am gyfnodau estynedig.

Gwelwyd bod gorlenwi a phrinder cyfleusterau ymolchi a thoiledau yn yr uned, a bod cleifion yn aros mewn mannau anaddas yn yr uned, gan gynnwys y tu allan i giwbiclau, lle nad oedd unrhyw lenni preifatrwydd na sgriniau i'w gwahanu oddi wrth gleifion eraill.

Roedd hyn yn cael "effaith negyddol ar allu'r staff i sicrhau preifatrwydd ac urddas y cleifion ac i ddilyn gweithdrefnau atal a rheoli heintiau."

Dywedodd rhai cleifion wrth yr arolygwyr eu bod wedi gorfod cysgu ar gadeiriau neu ar y llawr am gyfnodau hir. Er bod trefniadau digonol ar waith i asesu a monitro cleifion a oedd yn cyrraedd mewn ambiwlans, "ni chafwyd sicrwydd bob amser fod cleifion a oedd yn dod i'r uned eu hunain yn cael eu brysbennu mewn modd amserol."

Mae'r bwrdd iechyd wedi llunio cynllun cynhwysfawr sy'n cynnwys camau gweithredu manwl o ran sut y caiff gwelliannau eu gwneud yn yr adran achosion brys medd yr arolygwyr.

'Gwaith caled'

Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones: "Mae'r pwysau ar wasanaethau'r GIG yn parhau i fod yn uchel iawn ac fel mewn arolygiadau eraill o Adrannau Achosion Brys rydym wedi'u cynnal, gwelsom dystiolaeth unwaith eto o wasanaeth sy'n ei chael hi'n anodd ateb y galw a sicrhau diogelwch cleifion gyda'r adnoddau sydd ar gael.

"Rwy'n cydnabod gwaith caled ac ymroddiad y staff yn y gwasanaeth hwn ac mae ein hadroddiad yn rhoi cyfle i dynnu sylw at yr heriau y mae cleifion a staff yn y gwasanaeth hwn yn eu hwynebu bob dydd.

"Bydd yr argymhellion penodol gennym, sy'n nodi camau gweithredu i'w cymryd, yn helpu'r bwrdd iechyd i leihau risgiau i gleifion a staff tra bydd yn parhau i wynebu'r cyfnod heriol hwn. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau."

Llun: Bwrdd Iechyd Hywel Dda

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.