Newyddion S4C

Betsi Cadwaladr: Angen 'newid y diwylliant' meddai'r Cadeirydd newydd

Newyddion S4C 16/03/2023

Betsi Cadwaladr: Angen 'newid y diwylliant' meddai'r Cadeirydd newydd

Mae cadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cydnabod bod angen newid y diwylliant o fewn y sefydliad.

Fis diwethaf, cafodd y bwrdd iechyd ei osod o dan fesurau arbennig am yr ail dro, gan Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan AS, yn sgil "pryderon difrifol am berfformiad, arweinyddiaeth a diwylliant".

Daeth y penderfyniad yn dilyn adroddiad damniol a ddywedodd nad oedd arweinyddiaeth bwrdd iechyd mwyaf Cymru yn gweithio'n iawn.

Fe gytunodd y Cadeirydd, Is-gadeirydd ac aelodau annibynnol y Bwrdd i gamu i’r naill ochr, gyda chyn arweinydd Cyngor Gwynedd Dyfed Edwards yn cael ei benodi fel cadeirydd newydd.

Yn ei gyfweliad cyntaf ers cael ei benodi, dywedodd Mr Edwards fod yn rhaid i'r bwrdd gyrraedd "lle da" cyn gallu ystyried ad-drefnu neu ail-frandio.

Image
Dyfed Edwards

"Angen ceisio creu llwyddiant"

Dywedodd Mr Edwards fod angen i swyddogion gweithredol "gymryd stoc" o'u lle yn y sefydliad a phenderfynu a yw'n well iddyn nhw ystyried "opsiynau eraill".

Pan ofynnwyd iddo pam y gwnaeth dderbyn y swydd, atebodd: "Oeddwn i yn pendroni. Oedd yna ryw gant a mil o resymau i mi beidio gwneud y swydd.

"Dwi'n meddwl fod pawb yn teimlo'r siom yna o weld enw'r bwrdd iechyd dan gwmwl nifer o weithiau dros y blynyddoedd diwethaf.

"Yn y sefyllfa yna mae angen ymateb i hynny ac mae angen ceisio creu llwyddiant a newid diwylliant o deimlo bod ni ar daith ddiddiwedd at ryw bydew neu rywbeth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.