Newyddion S4C

Oes aur Y Seintiau Newydd yn parhau

18/03/2023

Oes aur Y Seintiau Newydd yn parhau

Mae'r Seintiau Newydd wedi ennill y Cymru Premier JD am y pymthegfed tro nos Wener.

Enillodd y Seintiau y bencampwriaeth yn dilyn gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Cei Connah 

Dyma deitl rhif 15 i'r tîm o Groesoswallt, gyda'r cyntaf yn nhymor 1999/2000.

Roedd tymhorau 2019/20 a 2020/21 yn anoddach na'r arfer i'r Seintiau, gyda Chei Connah yn ennill y bencampwriaeth ddwywaith.

30 blwyddyn, 15 teitl

Ers ei sefydlu dan yr enw Cynghrair Cymru yn 1992, mae'r Seintiau Newydd wedi ennill y gynghrair yn fwy nag unrhyw dîm arall.

O'r 30 tymor sydd wedi'u chwarae, mae'r Seintiau wedi ennill 15 ohonynt, a'r tro cyntaf yn 2000 pan mai Total Network Solutions oedd enw'r tîm.

Image
Y Seintiau Newydd
Y Seintiau Newydd yn dathlu ennill y gynghrair am yr eildro. Llun: Y Seintiau Newydd

Dyna oedd unig deitl y clwb am bedair blynedd, ac erbyn i'r clwb ennill y gynghrair am yr eildro roedd y gynghrair wedi ei diwygio a'i hailenwi Uwch Gynghrair Cymru.

Y tymor 2004/05 oedd y tro nesaf i'r clwb codi tlws y gynghrair, gyda Marc Lloyd Williams yn sgorio 31 o goliau ar ei ffordd i fod yn brif sgoriwr y gynghrair ers ei sefydlu, gyda 319 o goliau.

Fe aeth y clwb ymlaen i ennill y gynghrair dros y ddwy flynedd nesaf, gan ennill Cwpan Cymru a Chwpan Cynghrair Cymru hefyd.

Enillodd y clwb y gynghrair am y pumed tro yn 2009/10, cyn dechrau ar ddegawd lle'r oeddynt yn methu peidio ennill.

Dominyddu'r ddegawd

O 2010 i 2020 fe wnaeth y Seintiau ddominyddu pêl-droed domestig yng Nghymru.

Fe enillon nhw pob un tymor heblaw am 2010/11 a 2019/20, gyda Bangor a Chei Connah yn ennill yn y blynyddoedd hynny.

Er nad oedd y clwb wedi ennill y gynghrair yn ystod y cyfnodau yna, roeddynt yn dal wedi gorffen yn ail, a dim ond dau bwynt tu ôl i'r enillwyr.

Nawr mae'r clwb wedi ennill y gynghrair unwaith eto, a hynny gyda chwe gêm yn weddill o'r tymor.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.