Newyddion S4C

Carcharu menyw ar ôl iddi ymosod ar ei llysfab a'i ffilmio yn marw

16/03/2023
Harvey a Leila Borrington

Mae menyw a wnaeth ffilmio ei llysfab tair oed yn marw ar y llawr o anaf i'r ymennydd wedi ei charcharu am 15 mlynedd am ddynladdiad.

Fe wnaeth Leila Borrington, 23 o Sir Nottingham, ladd Harvey Borrington trwy ei fwrw "nifer o weithiau" ar draws ei ben ym mis Awst 2021. 

Daw hyn wedi i Borrington ymosod ar Harvey, a oedd yn awtistaidd, ar ddau achlysur arall dros gyfnod o bedwar mis, gan dorri ei fraich a gadael cleisiau ar ei wyneb. 

Clywodd Llys y Goron Nottingham bod Borrington wedi oedi wrth alw'r gwasanaethau brys wedi iddi achosi "anafiadau sylweddol" i Harvey gan gynnwys hollti ei benglog.

Yn lle, fe wnaeth Borrington anfon fideos o'r plentyn yn anymwybodol i'w dad, gan ofyn "Pam fod hyn yn digwydd i fi?".

Pan gyrhaeddodd y gwasanaethau brys i'w thŷ yn Jacksdale, Sir Nottingham, fe wnaeth Borrington ddweud celwydd ynglŷn â beth ddigwyddodd i Harvey. 

Dywedodd fod y bachgen ifanc wedi cwympo oddi ar soffa, gan achosi gwaedu yn ei ymennydd. 

'Celwydd'

Cafwyd Borrington yn euog o ddynladdiad a chyhuddiadau o ymosod ar ac achosi niwed corfforol i Harvey yn ystod mis Ebrill a Gorffennaf 2021. 

Wrth ddedfrydu Borrington i garchar am 15 mlynedd, dywedodd y barnwr yn Llys y Goron Nottingham bod Harvey wedi marw yn dilyn "ymosodiad treisgar parhaol".

Ychwanegodd Mr Ustus Nicklin fod y negeseuon a ddanfonodd Borrington ar ôl ymosod ar Harvey yn dangos "diffyg gofal a phryder cywilyddus".

Cyn y dedfrydu, fe wnaeth mam enedigaeth Harvey, Katie Holroyd, ddarllen datganiad gan alw ei mab "y bachgen mwyaf cariadus erioed".

"Daeth bywyd Harvey i ben mewn amgylchiadau creulon, ac yntau yn dair oed yn unig," meddai.

"Dwi methu dioddef meddwl amdano yn gorwedd ar y llawr yn marw a hi [Borrington] yn ei ffilmio ac yn oedi cyn cael cymorth meddygol.

"Roedd hi'n gwybod beth oedd hi wedi ei wneud iddo ac fe allai fod wedi dweud hynny o'r dechrau.

"Yn lle, penderfynodd ddweud celwydd er mwyn achub ei hun."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.