Newyddion S4C

Banc yn y Swistir yn benthyg biliynau wrth i bryder ledu drwy’r marchnadoedd ariannol

Credit Suisse

Mae banc yn y Swistir wedi cyhoeddi y bydd yn benthyg dros £40bn o fanc canolog y wlad wrth i bryder ledu drwy’r marchnadoedd ariannol ddoe a dros nos.

Syrthiodd y marchnadoedd ariannol ar draws Asia dros nos yn dilyn gwerthu trwm yn Ewrop ac America ddoe.

Dywedodd Credit Suisse y bydd yn benthyg 50 biliwn ffranc Swisaidd gan Fanc Canolog y Swistir er mwyn lledu pryderon am faint o arian oedd ganddo ar ôl i fuddsoddi.

Daw wedi i gyfranddaliadau'r cwmni syrthio 30% ddydd Mercher gan gyrraedd eu lefel isaf erioed.

Daw’r trafferthion wedi i fanc Silicon Valley Bank fethu yn yr Unol Daleithiau'r wythnos ddiwethaf.

Mae hynny yn ei dro wedi codi pryderon am ddyfodol banciau mawr eraill, gan gynnwys Credit Suisse.

Os bydd y banc yn methu, gallai hyn fod â goblygiadau mawr i fanciau Ewropeaidd eraill sy’n dod i gysylltiad â benthyciwr y Swistir sydd dan warchae,” meddai Fawad Razaqzada, dadansoddwr marchnad ar ran City Index a Forex.

“Mae pryderon ynghylch argyfwng ariannol arall tebyg i 2008 wedi dwysáu,” ychwanegodd.

‘Gwendid’

Gostyngodd FTSE 100 Llundain 3.8% ddydd Mercher wrth i fuddsoddwyr werthu eu cyfranddaliadau.

Y gostyngiad o 293 pwynt oedd y diwrnod gwaethaf i'r FTSE ers dyddiau cynnar pandemig Covid-19.

Roedd yn ddirywiad yn fwy na'r hyn ddaeth ar ôl cyllideb fechan drychinebus Llywodraeth y DU y llynedd, ac ar y diwrnod y lansiodd Rwsia ymosodiad ar Wcráin.

Ddydd Mawrth, dywedodd Credit Suisse wrth fuddsoddwyr ei fod wedi dod o hyd i “wendidau materol” yn ei adroddiadau ariannol, gan olygu ei fod wedi methu â nodi rhai risgiau.

Fe ysgogodd hyn un o'i brif fuddsoddwyr, Saudi National Bank, i gadarnhau na allai gynyddu ei gyfranddaliadau yn y banc.

Mae’n dilyn cyfnod anodd i’r banc rhyngwladol, a gofnododd golled net grŵp trwm o 7.3 biliwn ffranc y Swistir (£6.5 biliwn) dros y llynedd.

Llun: Adeilad Credit Suisse gan Roland Zh (CC BY-SA 3.0).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.